Skip to main content

Sut i wneud cais am wasanaeth Teleofal (Telecare)

Er mwyn derbyn gwasanaeth Teleofal gan y Cyngor, bydd angen i chi gael asesiad o'ch anghenion.

Os ydych chi o'r farn y byddech chi'n elwa o gael Gwifren Achub Bywyd neu offer Teleofal, dylech chi gysylltu â'n Carfan Ymateb ar Unwaith neu'ch Gweithiwr Cymdeithasol/Rheolwr Gofal os oes un gyda chi. 

Bydd y Garfan Ymateb ar Unwaith yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich sefyllfa, ac os ydyn nhw o'r farn bod eich cais yn briodol, byddan nhw'n ei drosglwyddo i Reolwr Gofal.

Cysylltwch â:

Carfan Ymateb ar Unwaith

 

Ffôn: 01443 425003

Bydd y Rheolwr Gofal yn ymweld â chi a'ch cynhaliwr (os oes un gyda chi) a gofyn ychydig o gwestiynau am eich sefyllfa a'r anawsterau rydych chi'n eu profi.  Bydd y Rheolwr Gofal yn cadarnhau'r angen am offer a/neu wasanaethau eraill ac yn llenwi ffurflen atgyfeirio gyda chi.

Os ydych chi'n cael *'offer hanfodol', mae'n bwysig, er eich diogelwch, bod un o'ch cysylltiadau yn cytuno i brofi'r offer yn fisol.  Dylai'r person yna fod yn bresennol hefyd pan fydd yr offer yn cael ei osod. Bydd y gosodwr yn gallu dangos sut mae profi'r offer ac yn darparu arweiniad ar bapur.

* Mae offer hanfodol yn cynnwys: synwyryddion mwg; synhwyrydd tymheredd/gwres a synhwyrydd carbon monocsid.  D.S. Mae'r teclyn gwddf Gwifren Achub Bywyd a'r synwyryddion cwymp hefyd yn hanfodol ond mae modd i'r defnyddiwr brofi'r rhain.

Os byddai'n well gyda chi brynu offer teleofal yn breifat, gallwch chi ymweld ag un o'n siopau Vision Products.

Trosglwyddor gwasanaeth llinellfywy diddigidol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad a sut y bydd yn effeithio ar Gwsmeriaid Gwifren Achub Bywyd?