Skip to main content

Offer gofal Teleofal eraill

Mae modd gosod yr offer isod i gefnogi pobl sydd â phroblemau cofio.  Bydd angen i chi gael eich asesu i gael mynediad at y math yma o offer.

Gall yr holl offer yma gael eu cysylltu â'n canolfan fonitro Gwifren Achub Bywyd 24 awr.

Botwm Galwr Ffug
Botwm Galwr Ffug

Mae'r larwm yma yn rhoi sicrwydd i bobl sy'n agored i niwed ac sy'n byw ar eu pennau eu hunain, os daw galwr annisgwyl.  Mae e hefyd yn ddelfrydol i unigolion sydd mewn sefyllfa trais domestig neu sy'n dioddef troseddau casineb.

Synhwyrydd Carbon Monocsid (CO)

Mae Carbon Monocsid (CO) yn cael ei gynhyrchu pan fydd tanwyddau domestig, megis nwy, glo, coed a golosg, yn cael eu llosgi heb awyru digonol. Mae'r synhwyrydd yma'n rhoi rhybudd os yw lefel y Carbon Monocsid (CO) yn cynyddu yn y cartref.

Synhwyrydd eniwresis

Mae'r synhwyrydd yma'n darparu dull cynnil ac effeithlon i ganfod gwlychu'r gwely wrth iddo ddigwydd.

Synhwyrydd epilepsi

Mae'r synhwyrydd yma'n monitro'r unigolyn sydd ag epilepsi wrth iddo gysgu i roi rhybudd pe bai ffit yn digwydd.

Synwyryddion
Mwg a Gwres

Mae synwyryddion mwg yn synhwyro tân yn y cartref - mae synwyryddion gwres yn cael eu rhoi mewn ceginau er mwyn lleihau rhybuddion di-sail.

Os ydych chi o'r farn y byddech chi'n elwa o gael Gwifren Achub Bywyd neu offer Teleofal, dylech chi gysylltu â'n Carfan Ymateb ar Unwaith neu'ch Gweithiwr Cymdeithasol/Rheolwr Gofal os oes un gyda chi. 

Bydd y Garfan Ymateb ar Unwaith yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich sefyllfa, ac os ydyn nhw o'r farn bod eich cais yn briodol, byddan nhw'n ei drosglwyddo i Reolwr Gofal.

Cysylltwch â: Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn: 01443 425003
E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk