Skip to main content

Offer Teleofal ar gyfer diogelwch yn y cartref

Mae modd gosod yr offer isod i gefnogi pobl sy'n agored i niwed ac sy'n byw ar eu pennau eu hunain.  Bydd angen i chi gael asesiad cyn defnyddio'r math yma o offer.

Gall yr holl offer yma gael eu cysylltu â'n canolfan fonitro Lifeline 24 awr.

Gall offer Teleofal eraill fod o fantais hefyd.

Botwm Galwr Ffug
Botwm Galwr Ffug

Mae'r larwm yma yn rhoi sicrwydd i bobl sy'n agored i niwed ac
sy'n byw ar eu pennau eu hunain, os daw galwr annisgwyl. 
Mae e hefyd yn ddelfrydol i unigolion sydd mewn sefyllfa trais
domestig neu i bobl sy'n dioddef troseddau casineb.

Synhwyrydd Carbon Monocsid (CO)

Mae Carbon Monocsid (CO) yn cael ei gynhyrchu pan fydd
tanwyddau domestig, megis nwy, glo, coed a golosg, yn cael eu
llosgi heb awyru digonol. Mae'r synhwyrydd yma'n rhoi rhybudd
os yw lefel y Carbon Monocsid (CO) yn cynyddu yn y cartref.   

Synhwyrydd nwy â falf gau

Mae'r synwyryddion yma'n cael eu cysylltu â chyfarpar nwy a
bydd yn rhoi rhybudd os yw'r cyfarpar yn cael ei adael ymlaen
heb ei danio.  Bydd y system yn synhwyro lefel y nwy yn
cynyddu, a diffodd y nwy ar y cyfarpar.

Teclyn Gwddf Gwifren Achub Bywyd

Mae person yn gallu pwyso'r pendant mewn argyfwng neu pan
fydd angen help.

Synwyryddion
Mwg a Gwres

Mae synwyryddion mwg yn synhwyro tân yn y cartref - mae
synwyryddion gwres yn cael eu rhoi mewn ceginau er mwyn
lleihau rhybuddion di-sail.

Os ydych chi o'r farn y byddech chi'n elwa o gael Gwifren Achub Bywyd neu offer Teleofal, dylech chi gysylltu â'n Carfan Ymateb ar Unwaith neu'ch Gweithiwr Cymdeithasol/Rheolwr Gofal os oes un gyda chi. 

Bydd y Garfan Ymateb ar Unwaith yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich sefyllfa, ac os ydyn nhw o'r farn bod eich cais yn briodol, byddan nhw'n ei drosglwyddo i Reolwr Gofal.

Cysylltwch â:
Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn: 01443 425003
E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Trosglwyddor gwasanaeth llinellfywy diddigidol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad a sut y bydd yn effeithio ar Gwsmeriaid Gwifren Achub Bywyd?