Skip to main content

Sicrhau bod eich offer Gwifren Achub Bywyd (Lifeline) a Theleofal (Telecare) yn gweithio

I sicrhau eich diogelwch, mae'n bwysig bod unrhyw offer gosod yn gweithio'n iawn bob amser.

Sut i sicrhau bod eich Offer Gwifren Achub Bywyd yn gweithio

Unwaith y mis, pwyswch y botwm ar eich teclyn gwddf i wneud galwad brawf i'n Canolfan Fonitro Gwifren Achub Bywyd. Bydd gweithredydd cyfeillgar yn ateb eich galwad, yn siarad â chi ac yn cau'r alwad gan nodi fod yr offer wedi cael ei brofi.

Os yw'r batri yn eich teclyn gwddf yn mynd yn isel, bydd yr alwad brawf yn sbarduno rhybudd batri isel i'n Canolfan Fonitro. Bydd hyn yn ei galluogi i drefnu i osodwr ddod i'ch tŷ i newid y batri (yn rhad ac am ddim). Os yw'ch uned Gwifren Achub Bywyd wedi'i datgysylltu neu ei diffodd, bydd ein Canolfan Fonitro yn cael gwybod am hyn, a bydd gweithredydd yn cysylltu â chi neu'ch person enwebedig, i ailgysylltu'r offer. 

Os yw'r system wedi'i chysylltu ond does dim cyflenwad trydan yn ei chyrraedd, bydd gosodwr yn trefnu apwyntiad i unioni hyn.

Sut i sicrhau bod eich Offer Teleofal yn gweithio

Mae synwyryddion Teleofal wedi'u pweru gan fatris ac maen nhw'n anfon rhybudd batri isel i'r Ganolfan Fonitro pan fydd angen eu newid. Bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i'r peiriannydd ddod i newid y batri (yn rhad ac am ddim).

Mae rhai o'r offer rydyn ni'n eu gosod yn cael eu galw'n "Offer Hanfodol". Mae angen i offer felly gael eu profi unwaith y mis.  Cyn i'r offer gael eu gosod, bydd angen i chi nodi a cheisio cytundeb gan un o'ch prif gysylltiadau i gynnal y profion yma. Dylai'r person yma fod yn bresennol pan gaiff yr offer eu gosod oherwydd bydd cyngor ac arweiniad yn cael eu rhoi ynglŷn â chynnal y profion yma.

Beth yw Offer Hanfodol?

Mae Offer Hanfodol yn cynnwys:

  • Teclynnau Gwddf Gwifren Achub Bywyd 
  • Synwyryddion Carbon Monocsid
  • Synwyryddion cwympo 
  • Synwyryddion gwres 
  • Synwyryddion mwg

Trosglwyddor gwasanaeth llinellfywy diddigidol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad a sut y bydd yn effeithio ar Gwsmeriaid Gwifren Achub Bywyd?