NODWCH: Ddylech chi ddim ymweld ag unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned os oes gyda chi neu rywun yr ydych yn byw gyda nhw symptomau COVID-19, megis tymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus, neu golli arogl (anosmia).
MANYLION AM BETH SY'N CAEL EI AILGYCHU YN EIN CANOLFANNAU
GWELD RHEOLAU'R CANOLFANNAU AILGYLCHU YN Y GYMUNED
GWELD CWESTYINAU CYFFREDIN
Bydd y safleoedd canlynol yn gweithredu gyda nifer o gyfyngiadau a chanllawiau pwysig o ran cadw pellter cymdeithasol y bydd yn ofynnol i breswylwyr sy'n defnyddio'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned eu dilyn. Mae'r rhain ar waith i ddiogelu staff a'r cyhoedd, ac i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i ateb y galw disgwyliedig.
MANYLION AM BETH SY'N CAEL EI AILGYCHU YN EIN CANOLFANNAU
GWELD RHEOLAU'R CANOLFANNAU AILGYLCHU YN Y GYMUNED
Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar draws Rhondda Cynon Taf bellach ar agor, saith diwrnod yr wythnos. Dyma'r oriau agor ar gyfer y cyfnod o fis Mawrth 2021 hyd at fis Mawrth 2022:
- Dydd Llun, 29 Mawrth 2021 i ddydd Sul, 31 Hydref 2021 – 8am tan 7.30pm
- Dydd Llun, 1 Tachwedd 2021 i ddydd Sul, 27 Mawrth 2022 - 8am tan 5.30pm
(Bydd yr oriau agor yn newid bob tro y bydd y clociau'n mynd ymlaen neu'n ôl).
Ar hyn o bryd mae chwe Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf.
- Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX
- Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Glynrhedynog, Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
- Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas, Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL
- Tŷ Glantaf, Taffs Fall Road, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
- Canolfan Ailgylchu 100%, Ffordd Pant-y-Brad, ger Heol-y-Sarn, Ystad Ddiwydiannol Llantrisant, CF72 8YT
- Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ
MANYLION AM BETH SY'N CAEL EI AILGYCHU YN EIN CANOLFANNAU
GWELD RHEOLAU'R CANOLFANNAU AILGYLCHU YN Y GYMUNED
Nodwch - bydd cyfleusterau'r Sied yng Nghanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned Llantrisant a Threherbert Mae'r siopau ar agor.