Skip to main content

Crwneriaid

Mae Crwneriaid yn swyddogion ynadol annibynnol, sy'n golygu nad ydyn nhw'n atebol i unrhyw un arall. Serch hynny, mae rhaid iddyn nhw ddilyn y deddfau a'r rheoliadau perthnasol.

Mae Crwner yn ymchwilio i'r marwolaethau sy'n cael eu hadrodd iddo ef neu iddi hi. Mae dyletswydd arno ef/arni hi i ddarganfod beth yw achos meddygol y farwolaeth. Bydd ef/hi hefyd yn gwneud ymholiadau ynghylch yr achos os yw'r farwolaeth yn sgil achos o drais neu achos annaturiol arall.

Ni roddir gwybod i'r Crwner am bob marwolaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, gall meddyg yr unigolyn sydd wedi marw, neu feddyg ysbyty sy wedi trin yr unigolyn, roi tystysgrif feddygol am achos y farwolaeth.

Gweld gwybodaeth bellach am y Gwybodaeth gyffredinol am Wasanaeth y Crwner