Skip to main content

Swyddfa Cofnodion y Cofrestrydd

Mae modd gwêl Cofnodion Hanesyddol ynghyd â Thystysgrifau Geni, Marwolaeth a Phriodas yma:

Swyddfa Gofrestru Pontypridd

Mae gan Rondda Cynon Taf Swyddfa Gofrestru Rhanbarthol ganolog ym Mhontypridd.

Ffoniwch y swyddfa i drefnu apwyntiad cyn mynd yno.

Gall y swyddfa gofrestru eich helpu gyda'r canlynol:

Cysylltu â Swyddfa Gofrestru Pontypridd


Swyddfa Gofrestru Pontypridd

Adeiladau'r Cyngor,
Heol Gelliwastad,
Pontypridd,
CF37 2DP

Ffôn: 01443 494024
Ffacs: 01443 494040

Ar gyfer argyfyngau ynglŷn â chofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, y tu allan i oriau agor arferol, ffoniwch 01443 425011

  LlunMawrthMercherIauGwener

Oriau Agor y Swyddfa

 

Oriau Cyhoeddi Tystysgrif

9.30am - 4.30pm 

 

9.30am - 12.30pm 

 

1.30pm- 2.30pm 

9.30am - 4.30pm

 

9.30am-12.30pm 

 

1.30pm - 2.30pm 

 

9.30am -4.30pm

 

9.30am - 12.30pm 

 

1.30pm -

2.30 pm 

9.30am - 4.30pm

 

9.30am - 

12.30pm 

 

1.30pm - 2.30pm 

9.30am - 4.30pm 

 

9.30am - 12.30pm 

 

1.30pm - 2.30pm 

Nodwch: Mae'r swyddfa ar gau bob dydd rhwng 12.30pm ac 1.30pm ar gyfer amser cinio.

Archifau Morgannwg

Mae’r swyddfa archifau yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr yn ogystal. Mae’n casglu a chadw cofnodion ac yn ei gwneud hi’n bosibl i gael hyd i ddogfennau sy’n ymwneud â’r ardal mae’n ei wasanaethu. Yn ogystal â hynny, mae’n cynnal a chadw cof corfforaethol ei awdurdodau cyfansoddol.

Mae modd i'r swyddfa archifau'ch helpu chi i

  • hel achau
  • cael gwybod rhagor am hanes eich tref, pentref neu dŷ
  • ymgymryd â gwaith ymchwil ar ran ysgol, coleg neu gwra gyda'r hwyr

I gael rhagor o fanylion, galwch heibio i http://www.glamarchives.gov.uk/

Benthyciadau, rhoddion, cymynroddion a gwerthiannau

Bach iawn iawn o ddogfennau fyddai ym meddiant yr Archifdy pe bai neb yn rhoi'u dogfennau i ni. Daw'r mwyafrif o’r dogfennau sydd yn ein meddiant oddi wrth sefydliadau ac unigolion lleol. Mae rhai pobl wedi rhoi’u dogfennau i ni, ond mae llawer rhagor o bobl wedi cadw’r dogfennau yn eu perchnogaeth a rhoi benthyg eu dogfennau i ni fel bod modd i haneswyr lleol a’r sawl a fo â diddordeb eu gweld a’u cadw’n ddiogel.

Os ydych chi o’r farn bod gyda chi ddogfennau sydd o ddiddordeb hanesyddol yn eich meddiant, fyddech cystal â chysylltu â ni ar y manylion isod. Mae’r dogfennau sydd yn yr Archifdy yn cael eu cadw mewn ystafelloedd cadarn sy’n ddiogel rhag tân, ac o dan amodau sy'n cael eu rheoli'n ofalus, er mwyn eu cadw ar gyfer y dyfodol.

Mae cadw’r dogfennau i gyd yn unol â’n Hamodau Adneuo safonol.

Cysylltu ag Archifau Morgannwg

Archifdy Morgannwg

Clos Parc Morgannwg
Leckwith
Caerdydd
CF11 8AW

Ffôn: (029) 2087 2200

 

Tudalennau Perthnasol