Skip to main content

Cynllun Grant TG 2021-2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid i helpu lleoliadau gofal plant sy'n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant.  Bydd y grant TG yma'n cynnig taliad o hyd at £500 i helpu i brynu caledwedd TG.

Er mwyn cyflwyno cais am y grant, rhaid i chi ddangos:

  • bod eich lleoliad yn Rhondda Cynon Taf
  • bod eich sefydliad wedi ei gofrestru'n llawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y ddarpariaeth rydych chi'n ei chynnig (neu fod y cais yn cael ei brosesu a'ch bod chi'n gallu dangos cydymffurfiaeth â'r safonau gofynnol sydd wedi'u cytuno)
  • bod eich lleoliad wedi'i gofrestru gyda RhCT i ddarparu lleoedd Cynnig Gofal Plant i blant 3 a 4 oed
  • eich bod chi yn y broses o lenwi Cytundeb Darparwr Cynnig Gofal Plant RhCT ac y bydd yn cofrestru’r lleoliad gofal plant cyn gynted â phosibl;

Isod, mae copi o'r Nodai Chanllawiau i Ymgeiswyr:

Sut I Wneud Cais

Am gopi o'r Ffurflen Gais am Grant TG cysylltwch â Rachel Gunter yn 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Gwener 11 Chwefror 2022.  Mae'n bosibl y bydd y dyddiad cau hwnnw'n gynt os byddwn ni wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael.