Skip to main content

Gwasanaethau Gofal a Chymorth i Blant

Mae'r Gwasanaethau i Blant yn Rhondda Cynon Taf yn darparu ystod o wasanaethau sy'n amddiffyn ac yn cefnogi plant, pobl ifainc a'u teuluoedd neu'u cynhalwyr (gofalwyr). 

Mae pob plentyn a pherson ifanc â'r hawl i fod yn ddiogel waeth pwy ydyn nhw neu beth yw eu hamgylchiadau. Er ein bod ni o'r farn bod diogelu plant a phobl ifainc yn fusnes i bawb, rydyn ni'n cydnabod bod gyda ni gyfrifoldebau penodol wrth ddiogelu plant a phobl ifainc.

Dylai teuluoedd yn RhCT fod yn ddiogel, yn annibynnol ac yn iach a chael byw bywydau llawn. I rai, mae hyn yn anodd ei gyflawni. Rydyn ni'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod plant, pobl ifainc a theuluoedd yn cael yr wybodaeth, cyngor a chymorth sydd eu hangen i fod yn ddiogel, i gadw'u hannibyniaeth ac i fyw bywydau mwy llawn a phleserus.

I'r rhan fwyaf o blant, pobl ifainc a'u teuluoedd neu gynhalwyr (gofalwyr), efallai y bydd cael mynediad di-oed, pan fydd pethau'n dechrau mynd o chwith, yn helpu i sicrhau bod modd iddyn nhw gynnal eu hunain a gwella ansawdd eu bywydau. Ar gyfer nifer fach o deuluoedd a phlant, fodd bynnag, mae’n bosibl bydd angen i ni ddarparu cymorth neu ymyrraeth fwy dwys.

Ceisio ein Cymorth

I roi gwybod i ni am bryderon neu i gael cymorth, ffoniwch:

Y Ganolfan Alwadau: 01443 425006 
Y Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau (y tu allan i oriau arferol): 01443 743665

Oes oes angen gofal cymdeithasol arnoch chi, byddwn ni'n:

  • darparu cyngor, gwybodaeth a gwasanaethau sy'n cefnogi'ch annibyniaeth
  • canolbwyntio ar yr hyn y mae modd ichi ei wneud drosoch chi'ch hun, a gweithio i'ch      helpu chi i gadw a gwella'ch galluoedd a'ch perthnasau
  • gweithio gyda chi fel eich bod chi'n dod o hyd i'r ffordd orau o fodloni'ch anghenion a chyflawni'r      pethau sy'n bwysig i chi
  • eich amddiffyn chi rhag niwed

Ein nod yw helpu plant i barhau i fyw yn ddiogel gyda'u teuluoedd eu hunain, yn eu cymunedau eu hunain - bydden ni dim ond yn ystyried rhoi plentyn yng ngofal yr Awdurdod pan fydd y risg i'r plentyn yn annerbyniol.

Gweld sut mae'r system gofal a chymorth yn cael ei gweithredu yn Rhondda Cynon Taf