Skip to main content

Children who are Looked After

Er mwyn cydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,  byddwn ni'n cefnogi plant i fyw gyda'u teuluoedd eu hunain os yw'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny, a gweithio gyda theuluoedd i oresgyn yr anawsterau maen nhw'n eu profi. Drwy hyn, bydd eu plant yn gallu dychwelyd adref pryd bynnag mae hyn yn bosibl. Serch hynny, os nad yw'n ddiogel neu'n bosibl i blentyn aros yn y cartref teuluol, bydd y Gwasanaethau i Blant yn trefnu iddyn nhw gael ei roi yng ngofal yr Awdurdod Lleol. Ambell waith, mae hyn yn cael ei alw'n 'bod mewn gofal'.

Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifainc sydd mewn gofal.

Mae'r plant a'r bobl ifainc sydd mewn gofal yn RhCT wedi creu gwefan sy'n darparu gwybodaeth i'r holl blant a'r bobl ifainc sydd mewn gofal. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma:

Two sides logo

Mae'r wefan yma hefyd yn cynnwys gwybodaeth am adael gofal a dod yn annibynnol.

Dewis-Banner-welsh