Skip to main content

CBS Rhondda Cynon Taf Polisi Lwfansau Rhieni Maeth

Cyflwyniad - meini prawf cymhwysedd

Mae pob rhiant maeth yn cael ei asesu yn erbyn yr un set o gymwyseddau a safonau yng Nghymru. Mae asesu yn cael ei ystyried yn broses barhaus sy'n dechrau ar ffurflen F ac yn parhau o dan weithdrefnau adolygu blynyddol. Efallai bydd rhieni maeth yn derbyn tâl am eu rôl. Mae'r taliad i rieni maeth yn cael ei ystyried o dan y polisi yma ar sail cymhwysedd.

Egwyddorion

  1. Mae'r polisi yma i fod yr un mor berthnasol i bob rhiant maeth, a gymeradwyir gan wasanaeth maethu yng Nghymru, a gymeradwyir o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 neu Reoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018.
  2. Mae'r polisi yr un mor berthnasol i rieni maeth sydd ddim yn perthyn i'r plentyn, boed nhw'n rhieni maeth amser llawn neu seibiant byr, ac i rieni maeth sy'n perthyn i'r plentyn, sy'n ffrindiau neu'n bobl gysylltiedig (‘gofal gan berthynas’).
  3. Bydd pob rhiant maeth cymeradwy a'r rheini sy'n aros i gael eu cymeradwyo ond sydd â phlentyn wedi'i leoli o dan reoliad 26 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015, yn derbyn taliad lwfans sy'n talu cost gofalu am bob plentyn o dan eu gofal. Bydd y lwfans yma'n cynnwys y lwfans craidd a gyfrifir yn unol â’r Isafswm Lwfans Maethu Cenedlaethol a bennir ar gyfer Cymru ac unrhyw swm ychwanegol a gyfrifir i gwmpasu anghenion penodol plentyn unigol.
  4. Bydd gan bob rhiant maeth cymeradwy (ond nid y rhai sy'n aros am gymeradwyaeth) hawl i gael lwfans uwch (roedd hyn yn arfer bod yn ffi) ar yr amod eu bod nhw'n diwallu'r meini prawf cymhwysedd isod. Mae modd i bob rhiant maeth cymeradwy gael ei asesu yn erbyn y meini prawf cymhwysedd os yw ef/hi yn dymuno gwneud hynny.      
  5. Cyn cael eu hasesu yn rhiant maeth prif ffrwd, bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf cymhwysedd mewn perthynas â'r lwfans uwch trwy asesiad cymhwysedd lwfans ychwanegol.
  6. Os dydy rhieni maeth ddim wedi derbyn lwfans (ffi) uwch o'r blaen ac maen nhw wedi cael eu hasesu o dan y broses asesu unedig rhaid cynnal asesiad Ffurflen F llawn, ar ôl dangos tystiolaeth eu bod nhw'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd cyn iddyn nhw dderbyn lwfans uwch.
  7. Mae parhad y lwfans uwch yn destun monitro ac adolygu parhaus. Bydd prosesau goruchwylio ac adolygu blynyddol yn cael eu defnyddio i gofnodi, monitro a thystio cymhwysedd parhaus.
  8. Lle mae rhieni maeth yn dangos tystiolaeth eu bod nhw'n parhau i fodloni'r meini prawf cymhwysedd, byddan nhw'n parhau i dderbyn lwfans uwch.
  9. Lle dydy rhieni maeth ddim yn dangos eu bod nhw wedi bodloni'r meini prawf cymhwysedd, neu eu bod nhw'n bodloni rhai o'r meini prawf cymhwysedd yn unig mewn adolygiad blynyddol, bydd cyfnod gwella o dri mis i ganiatáu amser ychwanegol i'r rhieni maeth ddangos eu bod yn bodloni'r pedwar gofyniad cymhwysedd. Bydd methu â dangos y dystiolaeth yma o fewn y cyfnod o dri mis yn arwain at atal y lwfans uwch.
  10. Pan fydd lwfans gwell wedi cael ei atal ac mae'r rhiant maeth yn dymuno gwneud cais iddo gael ei adfer, rhaid cynnal asesiad cymhwysedd lwfans ychwanegol newydd. 

Y Meini Prawf Cymhwysedd

Er mwyn derbyn y lwfans uwch rhaid i bob rhiant maeth cymeradwy allu dangos pob un o'r canlynol:

a) Y sgiliau, y gallu a'r cymhwysedd gofynnol i ofalu am yr ystod o blantmae'n bosibl bod angen i awdurdod lleol ofalu amdanyn nhw. Gwelir tystiolaeth o hyn trwy'r broses asesu maethu a thrwy'r adolygiad blynyddol rheoliadol o'r holl rieni maeth cymeradwy;

b) Ymrwymiad i ddysgu proffesiynol unigol parhaus a datblygu eu sgiliau maethu. Gwelir tystiolaeth o hyn gan ddefnyddio'r cofnod dysgu personol a'r cynllun datblygu yn ystod y broses asesu maethu a thrwy'r adolygiad blynyddol rheoliadol o'r holl rieni maeth cymeradwy;

c) Ymrwymiad i ddatblygiad personol unigol parhaus a myfyrio ar arfer. Gwelir tystiolaeth o hyn yn ystod y broses asesu maethu a thrwy broses oruchwylio'r holl rieni maeth cymeradwy yn barhaus;

d)    Ymrwymiad i gyd-weithio â'r gwasanaeth maethu. Gwelir tystiolaeth o hyn trwy gymryd rhan mewn grwpiau cymorth i rieni maeth, achlysuron ymgynghori, recriwtio rhieni maeth newydd a rhoi cymorth i gymheiriaid.

Proses

Mae siart llif cymhwysedd lwfans i ddangos y broses y mae rhaid i bob darpar riant maeth ei dilyn wedi'i chynnwys yn y fframwaith polisi yma. Dyluniwyd asesiad lwfans gwell i sicrhau dull gweithredu a chyflwyno cyson. Mae'r asesiad yma i'w weld yn yr atodiadau. Mae rhagor o wybodaeth am ffioedd a lwfansau i'w gweld yn y cytundebau i rieni maeth.

Talu lwfans uwch

Bydd talu'r lwfans uwch yn cychwyn o'r dyddiad yr argymhellir cymeradwyo yn y panel maethu ar ôl cyflwyno'r asesiad Ffurflen F llawn.