Skip to main content
 
Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi y mae'n rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf hyrwyddo lles person ifanc - hyd yn oed ar ôl iddynt adael y system ofal.

Mae yna 6 grŵp (neu 'categori') o bobl ifainc sy'n gallu cael cymorth. Mae gan bob grŵp hawliau gwahanol.

Grŵp 1 (person ifanc 16 neu 17 oed sy'n derbyn gofal) 

Dyma berson sydd yn parhau i dderbyn gofal, a oedd hefyd yn derbyn gofal ar neu cyn eu pen-blwydd yn 16 oed. Maen nhw hefyd wedi derbyn gofal am fwy na 13 wythnos ers eu pen-blwydd yn 14 oed.

Grŵp 2 (person ifan sy'n gadael y system ofal sy'n iau na 18 oed) 

Dyma berson ifanc sydd rhwng 16 ac 17 oed nad ydynt yn derbyn gofal bellach. Ond roedden nhw yn derbyn gofal am fwy na 13 wythnos ers eu pen-blwydd yn 14 oed.

Grŵp 3 (person ifan sy'n gadael y system ofal sy'n hŷn na 18 oed)

Dyma rhywun sydd rhwng 18 - 21 oed a oedd  yn derbyn gofal am fwy na 13 wythnos ers eu pen-blwydd yn 14 oed.

Grŵp 4: ailgysylltu â'r system ofal at ddibenion addysg neu hyfforddiant)

Dyma rywun sydd rhwng 21 - 25 oed sydd wedi rhoi gwybod i Gyngor Rhondda Cynon Taf eu bod yn dilyn, neu yn dymuno dilyn, rhaglen addysg neu hyfforddiant.

Grŵp 5: Person ifan sydd wedi gadael y system ofal o dan Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig 

Dyma rywun sydd wedi cyrraedd 16 oed (ond sydd hefyd yn iau nag 21 oed). Maent yn destun, neu eisoes wedi bod yn destun, Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig pan fydd ef neu hi yn troi'n 18 oed. Roedd y person yma hefyd yn derbyn gofal cyn cafodd y gorchymyn ei wneud.

Grŵp 6: pobl ifanc nad ydynt yn gwymwys fel 'person sy'n gadael y system ofal';

Mae hwn yn berson ifanc rhwng 16 a 21 oed, nad ydynt yn perthyn i unrhyw un o'r grwpiau uchod. Ond, mae'r person ifanc wedi cael eu gwahanu o'u teulu am o leiaf 3 mis tra roeddent yn 16 neu'n 17 oed o ganlyniad i'r canlynol: roeddent yn derbyn gofal gan y cyngor, neu roeddent yn byw mewn cartref gofal i blant preifat, neu roeddent yn byw mewn llety a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) neu'r cyngor mewn lleoliad addysg, neu roeddent yn byw gyda rhieni maeth preifat.

Pa hawliau sydd gan bob grŵp?

Rhaid i bobl ifainc yng Ngrŵp 1, 2, 3 a 4 gael ymgynghorydd personol hyd nes y byddant wedi gorffen addysg amser llawn fan lleiaf.

Dylai fod gan bobl ifainc yng Ngrŵp 2, 3 a 4 cynllun sy'n nodi pa gymorth a chyngor sydd eu hangen arnynt. Mae'n rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf sicrhau bod gan unrhyyw un yng Ngrŵp 2 digon o arian i fyw, rhywle addas i fyw a  digon o gymorth.

Mae'r rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf gefnogi oedolion ifainc yng Ngrŵp 3 drwy help gyda'r costau o fyw yn agos at eu swydd, neu i fyw yn agos at addysg a hyfforddiant os ydynt yn chwilio am swydd. Rhaid iddynt wneud grant tuag at gostau addysg neu hyfforddiant neu helpu lles yr oedolyn ifanc. 

Mae'n rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf sicrhau bod gan yr holl bobl ifainc yng Ngrŵp 3 sy'n symud i ffwrdd i fynd i'r brifysgol neu'r coleg rhywle i fyw yn ystod y gwyliau. 

Mae'r rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf helpu oedolion ifainc yng Ngrŵp 4 hyd nes iddynt adael addysg neu hyfforddiant. 

Bydd angen help gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar rai pobl yng Ngrŵp 5 a Grŵp 6. Gall Gyngor Rhondda Cynon Taf helpu i dalu costau byw, addysg neu hyfforddiant neu ddarparu llety.