Skip to main content

Croeso i Dwy Ochr!

 
Dyma wefan ar gyfer plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae'r wefan yma wedi'i dylunio gan grŵp o bobl ifainc o ardal Rhondda Cynon Taf. Cafodd y logo ei ddewis oherwydd, yn aml, mae dwy ochr i hanes pawb ac mae'n bwysig bod y ddwy ochr yn cael eu hystyried.

Mae'r wefan yn cynnwys llawer o wybodaeth am faterion ‘derbyn gofal’. Rydyn ni'n gobeithio gallwch chi ddod o hyd i atebion i rai o'r cwestiynau sydd gennych chi am fod mewn gofal.

Os oes cwestiwn gennych chi, neu dydych chi ddim yn gallu dod o hyd i rywbeth penodol, neu os hoffech chi roi adborth ar y wefan, anfonwch neges e-bost i LookedAfterChildrenReviewingTeam@rctcbc.gov.uk a byddwn ni'n ymateb cyn gynted â phosibl.

Mae croeso i chi hefyd roi’ch adborth ac awgrymiadau ar gyfer gwella’r wefan trwy lenwi ein ffurflen adborth ar-lein