Skip to main content

Cylchoedd rhieni a phlant bach

Mae'r cylchoedd rhieni a phlant bach yn gyfle gwych i blant gymdeithasu, cael hwyl a chwarae, tra bod eu rhieni a'u gofalwyr yn ymlacio ac yn sgwrsio gyda'i gilydd.

Mae'r rhan fwyaf o'r cylchoedd yn cael eu cynnal gan rieni a gofalwyr, ac mae tâl bach yn cael ei godi am bob sesiwn ar gyfer lluniaeth a chostau cynnal.

Fel arfer, mae'r cylchoedd yn cael eu cynnal yn neuadd yr eglwys neu neuadd y gymuned.

Mae'r rhieni neu'r gofalwyr yn aros gyda'r plant drwy'r amser yn ystod y sesiynau hyn, felly, does dim angen eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Chwiliwch am eich cylch rhieni a phlant bach isod.

Grwpiau rhieni a phlant bach

Gweld grwpiau rhieni a phlant bach drwy wefan DEWIS