Skip to main content

Cyrsiau hyfforddi ar gyfer darparwyr gofal plant

Mae Tîm hyfforddiant a datblygiad y Dechrau'n Deg n diwallu'r holl anghenion hyfforddi ymarferwyr y blynyddoedd cynnar.

Cyrsiau Hyfforddi

Mae tîm hyfforddiant a datblygiad yn cydlynu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi i fodloni gofynion hyfforddi ac anghenion ymarferwyr gofal plant yn canolbwyntio'n bennaf ar anghenion ymarferwyr gofal plant yn gweithio mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg Rhondda Cynon Taf.

Mae'r cyrsiau hyn yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferwyr sy'n rhoi profiad cadarnhaol i'r plant yn y lleoliadau hyn. Ar hyfforddiant y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Rydyn ni'n cynnig chyrsiau hyfforddi newydd o hyd, ac mae'r rhestr i'w gweld ar ein gwefan.

Rydyn ni'n newid y ffordd rydyn ni'n gweithredu i sicrhau bod y cyfleoedd hyfforddi sy'n cael eu darparu yn berthnasol ac yn effeithlon. Mae canllaw sy'n rhoi manylion y newidiadau ynghlwm. Mae'r newidiadau yn berthnasol i bob ymgeisydd, felly dylai pob aelod o staff fod yn effro iddyn nhw.

Ymarferwyr Dechraun Deg - darllenwch Dechraun Deg dogfen gyfarwyddyd.
Ymarferwyr arall - darllenwch dogfen gyfarwyddyd allanol.

Yn ogystal â hynny, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a gafodd ei roi ar waith yn ddiweddar, mae gofyn ein bod ni'n rhoi gwybod i chi sut rydyn ni'n casglu ac yn storio'ch data at ddibenion hyfforddiant. Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd sydd ynghlwm.

Yn olaf, fel rydyn ni wedi'i nodi yn y canllaw, rydyn ni wedi ailgyflwyno'r ffioedd cosb o ganlyniad i lefelau uchel o weithwyr yn methu â dod neu'n canslo ar fyr rybudd. Rydyn ni felly yn gofyn i bob arweinydd/cydlynydd lleoliad gytuno i dalu'r ffioedd cosb pan fydd sefyllfa fel hyn yn codi.

Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n hapus gyda'r cyrsiau sy'n cael eu cynnig ac yn mwynhau cymryd rhan ynddyn nhw.

Gweld cyrsiau hyfforddi newydd

Cysylltu â ni

Tîm Dechrau'n Deg hyfforddiant a datblygiad

E-bost: HyfforddiantyBlynyddoeddCynnar@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 281437 / 07717432366