Skip to main content

Cefnogi Gofalwyr ifanc

Mae cynhalwyr ifainc yn blant a phobl ifainc sydd o dan 18 oed sy'n gofalu am (neu yn bwriadu gofalu am) riant, oedolyn, brawd neu chwaer sâl neu anabl.

Mae cynhalwyr ifainc yn ymgymryd â thasgau gofalu a chadw tŷ pwysig, a mae modd i hynny arwain at lai o gyfleoedd, problemau gydag addysg ac anawsterau emosiynol a phroblemau iechd.

Fel cynhaliwr ifanc, mae'r hawl gyda ti i gael dy asesu, does dim ots faint o waith gofalu rwyt ti'n ei wneud. Pwrpas hyn yw canfod a wyt ti angen cymorth neu yn debygol o angen cymorth yn y dyfodol.

Ydw i'n Gynhaliwr Ifanc?

Rydyn ni wedi paratoi Canllaw i Gynhalwyr Ifainc o'r enw ‘Ydych chi'n rhoi gofal?’

 

Ble mae modd i mi i ddod o hyd i help, cefnogaeth a chyngor?

Caiff cynhalwyr ifainc ofyn am asesiad i ganfod y ffordd orau i helpu.

  • Ffoniwch ni ar - 01443 425006.
  • I gysylltu â'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau y tu allan i oriau arferol, ffoniwch - 01443 743665.

 

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr – Pwy ydyn ni a’r hyn rydyn ni’n ei wneud

Cynhalwyr – Pwy ydyn ni a’r hyn rydyn ni’n ei wneud

Animeiddiad Cynhalwyr