Skip to main content

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem sy'n effeithio ar drigolion o bob oed ac yn flaenoriaeth i ni fynd i'r afael ag e.

Rydyn ni'n derbyn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol o asiantaethau partner gan gynnwys pob adran Cyngor Rhondda Cynon Taf, Ysgolion, yr Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd a Chymdeithasau Tai.

Does dim modd i ni ymateb i atgyfeiriadau gan aelodau o'r cyhoedd ar hyn o bryd felly bydd raid i chi roi gwybod am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol i un o'n partneriaid. (Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol, ffonio 101 mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, 999 mewn achosion brys, adran yr Awdurdod Lleol e.e. iechyd yr amgylchedd)

Ar ôl i ni dderbyn cwynion bod person yn gyfrifol am ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydyn ni'n gweithredu proses pedwar cam.

1. Byddwn ni'n anfon llythyr at y sawl sy wedi cyflawni'r trosedd neu at eu rhiant/gwarcheidwaid sy'n amlinellu'r hyn maen nhw wedi'i wneud. Byddwn ni hefyd yn esbonio nad yw'r ymddygiad yma'n dderbyniol.

Dydy 85% o'r unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio at y bartneriaeth ac sy'n derbyn llythyr ddim yn clywed oddi wrthon ni eto.

2. Os oes ail atgyfeiriad o fewn chwe mis, bydd rhybudd olaf yn cael ei anfon.

3. Os yw'r unigolyn yn cael ei atgyfeirio am y trydydd tro bydd llythyr rhybudd Cam 2 yn cael ei anfon a bydd un o'r partneriaid yn ymweld â chartref yr unigolyn. Mae modd i Swyddog Heddlu, cydlynydd y bartneriaeth, swyddog tai, aelod o garfan troseddau ieuenctid, swyddog lles addysg, neu fwy nac un ohonyn nhw fynd i gartref yr unigolyn dan sylw.

Byddwn ni'n rhoi rhybudd ffurfiol ynghylch yr ymddygiad a bydd modd i'r partneriaid archwilio a oes unrhyw broblemau sylfaenol sy wedi achosi'r ymddygiad yma. Byddwn ni'n cynnig cymorth i'r unigolyn sy'n gyfrifol, er mwyn rhoi pen ar yr ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Bydd yr achos yn cael ei gynnwys ar agenda cyfarfodydd rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol aml-asiantaeth a bydd y carfanau yn trafod sut i ddatrys y problemau. Y math o ddatrysiadau posib yw arwyddo Cytundeb Ymddygiad Derbyniol neu wneud gwaith cyfryngu. Rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i sicrhau na fydd rhagor o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

4. Yn yr achosion lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau a dydy ymdrechion y garfan datrys problemau ddim yn llwyddiannus, bydd achos llys yn cael ei ystyried.  Bydd modd gwneud cais am Orchymyn Ymddygiad Troseddol neu achos mewn llys sifil am orchymyn troi allan neu unrhyw achos arall yn erbyn y tenantiaid sy wedi achosi problemau.

Mae'r broses yma'n hyblyg ac mae'n bosib byddwn ni'n cynnig cefnogaeth ychwanegol i unigolion neu gefnogaeth i deuluoedd  ar unrhyw adeg. Pwrpas y gefnogaeth yma yw lleihau'r ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Mae'n bosib hefyd byddwn ni'n hepgor camau o'r broses os ydyn ni'n teimlo bod rhaid cael ymateb mwy difrifol.

Lawrlwythwch gylchlythyr newydd Cymunedau Diogel yma.

Mae'r dolenni isod yn cynnig gwybodaeth a chymorth defnyddiol

Trothwy Cymunedol De Cymru

Cymorth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Swyddfa Gartref

Carfan Cymunedau Diogel

E-bost: IechydyCyhoeddYmddygiadGwrthgymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 744287

Oedd yr wybodaeth yma'n ddefnyddiol?