Skip to main content

Cam-drin yn y cartref

Ydych chi angen cymorth mewn perthynas â cham-drin yn y cartref?

Os ydych chi mewn perthynas dreisgar neu ymosodol, neu os ydych chi'n cefnogi rhywun sydd yn y fath sefyllfa, dilynwch y ddolen yma i weld pa gyngor, canllaw a chymorth cenedlaethol sydd ar gael.

Beth yw cam-drin yn y cartref?

Ar hyn o bryd, mae trais yn y cartref yn effeithio ar filiynau o bobl yn y DU. Mae'r Llywodraeth yn benderfynol o atal achosion o gam-drin yn y cartref rhag digwydd neu godi dro ar ôl tro, diogelu a rhoi cymorth i ddioddefwyr, a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.

Diffiniad y Llywodraeth o gam-drin yn y cartref yw unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ymddygiad sy’n rheoli, gorfodi neu sy’n fygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng unigolion dros 16 oed sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid neu’n aelodau o’r un teulu, beth bynnag eu rhyw neu rywioldeb.

Er nad yw'n gyfyngedig i'r canlynol, gall y cam-drin fod yn:

  • Seicolegol
  • Corfforol
  • Rhywiol
  • Ariannol
  • Emosiynol

Mae hyn yn cynnwys achosion o drais er anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu menywod a phriodas dan orfod. Mae'n amlwg nad yw dioddefwyr yn rhan o un rhyw neu grŵp ethnig yn unig.

Gall hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r mathau canlynol o gam-drin:

Ymddygiad sy'n rheoli – gweithredoedd amrywiol sydd â'r bwriad o wneud i rywun deimlo'n israddol a/neu ddibynnol drwy ei wahanu oddi wrth ei ffynonellau cymorth, camfanteisio ar ei adnoddau a'i hawl i les personol, ei amddifadu o'i fodd i fod yn annibynnol ac yn wrthsafol, a'i fodd dianc, a rheoli'i ymddygiad dyddiol.

Ymddygiad sy'n gorfodi – gweithred neu batrwm o weithredoedd sy'n ymosod, bygwth, bychanu a brawychu, neu fath o gam-drin arall sy'n cael ei ddefnyddio i niweidio, cosbi neu godi ofn ar berson.

Beth bynnag ei ffurf, yn anaml iawn y mae cam-drin yn y cartref yn ddigwyddiad unigryw, a dylai gael ei ystyried fel rhan o batrwm o ymddygiad ymosodol a rheolaethol ble mae'r camdriniwr yn chwilio am bŵer dros y dioddefwr. Mae cam-driniaeth yn y cartref yn digwydd ym mhob rhan o'r gymuned, nid yw oedran, rhyw, hil, rhywioldeb, cyfoeth a daearyddiaeth yn ffactor. Fodd bynnag, mae'r ystadegau yn dangos bod cam-drin yn y cartref yn digwydd yn bennaf gan ddynion yn erbyn menywod. Mae cam-drin yn y cartref hefyd yn effeithio ar blant. Nid yn unig yw plant yn cael eu heffeithio gan yr hyn maen nhw'n ei weld; mae yna gysylltiad cryf rhwng cam-drin yn y cartref, trais rhywiol a cham-drin plant.

Mae canolfan un stop newydd wedi cael ei hagor ble gall unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gam-drin yn y cartref alw heibio a siarad ag amrywiaeth o arbenigwyr ac ymgynghorwyr o asiantaethau partner eraill. Mae Canolfan Oasis ar agor rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Iau ac rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener, ar Stryd yr Eglwys, Pontypridd.

Mae modd i chi alw heibio am ragor o wybodaeth, cyngor neu gymorth ar faterion. Rydyn ni ar gael i'ch helpu chi!

Am ragor o wybodaeth a chyngor am gam-drin yn y cartref ewch i'n gwefan drwy glicio ar y linc isod neu ffoniwch:

Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan: 0808 80 10 800

Os ydych mewn perygl ac angen cymorth brys ffoniwch 999!