Skip to main content

Hysbysiad atal niwsans

Mae Rhan III Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn ei gwneud hi'n ofynnol inni gymryd camau rhesymol i ymchwilio, ac, os yn briodol, i gymryd camau gweithredu ffurfiol mewn achos lle mae rhywun yn gwneud cŵyn cyfiawn am ‘niwsans statudol’.

Beth yw ‘niwsans statudol’ yn y cyd-destun hwn? Mae’n cynnwys pethau sy’n cael eu gyrru allan drwy’r awyr (‘allyriadau’), megis mwg, tarthoedd, mygdarth, llwch, ager neu stêm, nwyon ac arogleuon a sŵn. Rhaid i’r allyriadau ddod o safle penodol, a rhaid iddyn nhw effeithio’n sylweddol ar ddefnydd neu fwynhad safleoedd eraill.

Cŵyn nodweddiadol

Dyma achos rhai o’r cwynion gawn ni: mwg a lludw o goelcerthi mewn gerddi, llwch o weithgareddau adeiladu a dymchwel, ac arogleuon coginio o dai bwyta. Dydy’r ddeddfwriaeth ddim yn caniatáu inni ddelio â chwynion am arogleuon o gartrefi pobl (‘safleoedd domestig’).

Cŵyn Cyfiawn

Os yw’r dystiolaeth yn ein bodloni ni fod y cwyn am niwsans statudol yn gyfiawn, bydd Hysbysiad Cosb / Atal yn cael ei gyflwyno i'r person cyfrifol, neu breswylydd neu berchennog yr adeilad. Bydd y rhybudd yn mynnu bod y niwsans yn dod i ben.

Mae peidio â chydymffurfio â'r Rhybudd Cosb / Atal yn drosedd a allai arwain at gynnal achos cyfreithiol. Os bydd llys yn cael y person dan sylw yn euog o drosedd, fe all e/hi gael dirwy.  £5,000 yw’r uchafswm ar gyfer safle domestig, a £20,000 ar gyfer safle masnachol.

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
E-bost: CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk