Skip to main content

Cynhesrwydd fforddiadwy

Dydy llawer o bobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ddim yn effro i'r ffaith eu bod nhw'n byw mewn tlodi tanwydd, ac maen nhw'n dewis diffodd y gwres. Mae hyn yn gallu cael effeithiau negyddol ar eu hiechyd nhw.

Mae cartrefi oer, tai aneffeithlon o ran ynni a lefelau uchel o broblemau sy'n ymwneud ag afiechyd, ymhlith yr arwyddion mwyaf amlwg o broblem sy'n effeithio ar ein trigolion mwyaf agored i niwed yn ein hardal ni.

Beth yw effeithiau tlodi tanwydd?

  • Mae tystiolaeth yn profi bod tai oer a llaith yn gallu achosi neu waethygu amrywiaeth o broblemau iechyd, gan gynnwys cyflyrau resbiradol a chlefydau'r galon, asthma, broncitis a strôc. Mae hyn yn gosod baich ychwanegol ar y GIG yn y gaeaf, gan gynyddu cyfraddau derbyn i'r ysbyty ac atal rhyddhau amserol.
  • Marwolaethau ychwanegol y gaeaf – bob gaeaf, mae 20,000 - 30,000 o farwolaethau ychwanegol yn cael eu cofnodi (o’u cymharu â marwolaethau yn ystod yr haf). Rydyn ni o'r farn bod 30%-50% o'r marwolaethau yma'n digwydd o ganlyniad i dai gwael sydd ddim yn darparu amddiffyniad digonol rhag tywydd y gaeaf.
  • Llai o incwm gwario i brynu hanfodion eraill megis bwyd neu ddillad.
  • Problemau iechyd meddwl – gall cartref oer fod yn lle gormesol i fyw ynddo, a gall dyled gynyddol yn sgil biliau ynni achosi straen.
  • Allgáu cymdeithasol – mae llai o arian ar gael ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a hamdden, ac efallai na fydd deiliaid tai am wahodd pobl i gartref oer a llaith.

Pam mae pobl mewn tlodi tanwydd?

Mae'r tebygolrwydd o orfod gwario mwy na 10% o incwm ar wres yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Incwm gwario isel.
  • Lefel inswleiddio cartrefi – gall cartref sydd heb ei inswleiddio gostio hyd at £250 ychwanegol y flwyddyn o'i gymharu â chartref sydd wedi'i insiwleiddio'n dda.
  • Effeithlonrwydd ynni'r offer sydd yn y cartref – yn enwedig y system wresogi – bydd cael gwared ar foeler 15 mlwydd oed a gosod un newydd yn lleihau biliau ynni o tua thraean.
  • Nifer y meddianwyr – mae tanfeddiannaeth yn golygu bod ynni ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i wresogi mannau sydd ddim yn cael eu defnyddio.
  • Amser sy'n cael ei dreulio yn y cartref – mae rhai pobl yn treulio mwy o amser yn y cartref nag eraill, er enghraifft, yr henoed, y methedig, y di-waith neu deuluoedd gyda phlant bach. Bydd angen i'r bobl yma wresogi'u tai am gyfnodau hirach na thai sy'n wag rhwng 9am a 5pm er enghraifft.

Pwy sydd fwyaf tebygol o ddioddef o dlodi tanwydd?

Mae'r teuluoedd sydd fwyaf tebygol o ddioddef o dlodi tanwydd yn cynnwys

  • Teuluoedd incwm isel a fydd yn gorfod gwario cyfran fawr o'u hincwm ar ynni
  • Yr henoed neu'r methedig, yn enwedig pobl oedrannus sy'n byw ar eu pennau eu hunain
  • Teuluoedd ifainc, yn enwedig teuluoedd rhiant sengl
  • Pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd hirdymor

Yn gyffredinol, mae unrhyw un sydd ag incwm isel a/neu unigolion sy’n treulio llawer o'u hamser yn y cartref mewn perygl, oherwydd eu bod nhw’n gorfod ei wresogi am gyfnodau hirach.

Beth i'w wneud os ydych chi'n cael talu'ch biliau ynni yn anodd, neu'n meddwl eich bod chi'n dioddef o dlodi tanwydd.

Os ydych chi o'r farn eich bod chi'n dioddef o dlodi tanwydd, neu yr hoffech chi gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar RADFFON 0800 512 012 neu ar-lein

Gallwch chi hefyd edrych ar yr awgrymiadau arbed ynni a/neu wybodaeth am grantiau effeithlonrwydd ynni i helpu i leihau costau gwresogi eich cartref.

Beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ei wneud i helpu teuluoedd sydd mewn tlodi tanwydd?

Bwriad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'i bartneriaid yw lleihau tlodi tanwydd ac yn ddiweddar, mae wedi datblygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy 2007-2012 i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ar draws pob deiliadaeth, gwella iechyd a lles a mynd i'r afael ag arbed ynni drwy ddod â'r holl bartneriaid a phrosiectau at ei gilydd i ddarparu dull cydgysylltiedig i ddileu tlodi tanwydd.

Mae'r cysylltiad rhwng tlodi tanwydd ac iechyd yn glir, ac rydyn ni'n gweithio i fynd i'r afael â hyn mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft, codi ymwybyddiaeth, atgyfeirio teuluoedd cymwys i'r grantiau sydd ar gael ac annog gosod mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref. Rydyn ni hefyd yn annog ymddygiad mwy ynni effeithlon, sicrhau'r incwm mwyaf posibl a darparu cymorth i bobl sydd wedi'u hallgáu ac sy’n agored i niwed.

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau inswleiddio, tlodi tanwydd neu wybodaeth gyffredinol am effeithlonrwydd ynni, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar RADFFON 0800 512 012 neu siarad â rhywun yn y Cyngor. Ffoniwch y Garfan Grantiau Sector Preifat ar 07768252723 / 01443 281136Mae rhagor o wybodaeth ar grantiau effeithlonrwydd ynni presennol ar gael yma.