Skip to main content

Gwybodaeth am ein cynllun

Dyma gyfnod cyffrous a llawn her ym myd Llywodraeth Leol, wrth iddo barhau i sicrhau gwasanaethau gwell ochr yn ochr â gwerth am arian.

Mae gweithio ym myd Llywodraeth Leol yn un o'r heriau caletaf ac ysgogol i'r ymennydd wrth inni gynnal gwasanaethau sy'n effeithio ar filoedd o fywydau mewn amryw ffyrdd.

Unwaith eto, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dymuno recriwtio graddedigion talentog i'n hamrediad eang o gynlluniau i raddedigion. Mae pob un o'r cynlluniau yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu medrau newydd, datblygu'n broffesiynol a chamu i fyd gwaith y sector cyhoeddus.

Bydd graddedigion yn:

  • Ennill £27,041 y flwyddyn ac yn gweithio 37 awr yr wythnos
  • Cwblhau amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol a gaiff eu hariannu'n llawn
  • Gweithio oriau hyblyg
  • Cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau'r banc
  • Cael eu mentora gan aelodau uwch o staff
  • Cael y cyfle i fanteisio ar ystod eang o gynlluniau buddion staff gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, cynllun Cycle2Work a chynllun talebau gofal plant
  • Cael cerdyn buddion staff ‘Vectis’

Mae llawer o raddedigion o flynyddoedd blaenorol wedi llwyddo i gael swyddi rheoli yn syth ar ôl cwblhau'r cynllun. Yn ogystal â hynny, mae dau swyddog graddedig o flynyddoedd blaenorol ar hyn o bryd yn benaethiaid gwasanaeth yn y Cyngor.

Os oes gyda chi'r cymhelliad a'r angerdd i fod yn gymorth inni ysgwyddo ystod eang o gyfrifoldebau, mae croeso ichi gyflwyno cais i fod yn rhan o'n cynllun i raddedigion.

Amserlen Gwneud Cais

3ydd Rhagfyr 2021

Ceisiadau ar agor

18ydd Chwefror 2022

Ceisiadau'n cau

Mawrth 2022

Ganolfan Asesu os oes angen

Mawrth / Ebrill 2022

Cyfweliadau i'w cynnal (dyddiadau yn amodol ar newid)

Mai 2022 ymlaen

Dechrau gweithio gyda RhCT