Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Prentisiaeth?

Swydd dan hyfforddiant yw prentisiaeth. Mae bod yn Brentis yn golygu bod gyda chi swydd sy'n cynnwys ennill cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau allweddol wrth i chi weithio ac ennill cyflog.

Mae tri math o Brentisiaeth:

  • Prentisiaeth Sylfaenol
  • Prentisiaeth
  • Prentisiaeth Uwch

Mae tri math o brentisiaeth oherwydd bod rhai swyddi yn gofyn am gymwysterau ar lefelau gwahanol, rhai yn uwch nag eraill. 

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Unrhyw un -  cyn belled â'ch bod chi'n 16 oed neu'n hŷn, does dim terfyn oedran hŷn. 

O ganlyniad i feini prawf Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.  Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim gymwys i wneud cais am swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil.  Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall.  Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

A oes modd i mi wneud cais am fwy nag un rôl? NEWYDD

Oes, mae modd i chi wneud cais am fwy nag un rôl.  Fodd bynnag, dim ond ar eich cais cyntaf y cewch eich gwahodd i sefyll eich prawf profi dawn ar-lein. Ar ôl ei gwblhau, bydd eich sgorau yn cael eu cymhwyso'n awtomatig i unrhyw gais cysylltiedig yn yr ymgyrch recriwtio yma.

A oes angen profiad gwaith perthnasol arna i cyn i fi wneud cais am Brentisiaeth? NEWYDD

Nac oes. Rydyn ni'n edrych tuag at eich dyfodol, nid eich gorffennol chi. Mae ein proses ddethol yn ystyried eich galluoedd, eich potensial a'ch tystiolaeth o sgiliau rydych chi wedi'u hennill mewn unrhyw faes.

Beth yw'r cod gwisg? NEWYDD

Does dim cod gwisg ffurfiol gan Gyngor RhCT - mae gwisgo'n drwsiadus anffurfiol yn dderbyniol. Fodd bynnag, os ydych chi'n cwrdd ag aelodau o'r cyhoedd pan rydych chi'n cynrychioli'r adran, dylech chi wisgo'n ffurfiol.

Os yw fy nghais i'n llwyddiannus, sut y bydda i'n cael fy nghyfweld? NEWYDD

Yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol diweddaraf y llywodraeth, rydyn ni'n gweithio mewn modd sy'n tarfu cyn lleied â phosibl ar y broses recriwtio. Yn dibynnu ar ganllawiau'r llywodraeth sydd ar waith yn ystod adeg benodol, bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu o bell.

Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad o bell, byddwn ni'n defnyddio 'Microsoft Teams' a bydd modd i chi gael mynediad at gyfarfod trwy ddolen y bydd yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost.

Pa mor hir bydd y brentisiaeth?

Bydd eich prentisiaeth yn para hyd at 2 flynedd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf 

Sut bydda i'n dysgu?

Mae hyn yn dibynnu ar y swydd rydych chi'n hyfforddi ar ei chyfer.  Mae pob Prentis yn dilyn Rhaglen Astudio sydd wedi cael ei chymeradwyo. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n ennill cymhwyster cydnabyddedig.   Erbyn diwedd eich prentisiaeth, bydd gyda chi'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i gyflawni'r swyddi rydych chi wedi hyfforddi ar ei chyfer.

Sut ydw i'n Cyflwyno Cais?

Defnyddiwch ein peiriant chwilio am swyddi i wneud cais, neu glicio yma!