Skip to main content

Angharad Stephens - Swyddog Graddedig – Datblygu Canolfannau yn y Gymuned

Enw: Angharad Stephens

Blwyddyn Dechrau'r Rhaglen i Raddedigion: 2017
Swydd bresennol: Swyddog Graddedig – Datblygu Canolfannau yn y Gymuned
Maes Astudio: Gwyddor Gymdeithasol (llwybr Cymdeithas Seicoleg Prydain (BPS)), Prifysgol Caerdydd

Pam gyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?:

Roeddwn i wedi cael gwybod bod Rhaglenni i Raddedigion RhCT yn gyfle gwych i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle, ochr yn ochr â sicrhau cymhwyster. Roedd gen i ddiddordeb penodol mewn gwaith ac ymchwil prosiectau.  Wedi dweud hynny, ar ôl bod ym maes addysg am gyfnod hir, roeddwn i'n awyddus i gael mwy o brofiad mewn gweithle. Felly roedd Rhaglen i Raddedigion RhCT yn gyfle perffaith.

Uchafbwyntiau:

Uchafbwynt y rhaglen yma yw'r amrywiaeth o waith rydw i wedi ei weld. Fel Graddedigion, rydyn ni'n cael arweiniad i gynnal gwaith pwysig/strategol ac mae ffyrdd ynddon ni i'w wneud. Mae hyn yn ein hannog a'n caniatáu i ni dyfu fel gweithwyr proffesiynol.  Trwy gydol fy lleoliad, rydw i wedi cael profiad fydd o fudd i fi gyda fy ngyrfa yn y dyfodol.

Argymhellion i ymgeiswyr:

Byddwn i'n argymell y Rhaglen i Raddedigion yma. Bydd y profiad a gwybodaeth rydych chi'n eu cael o fudd i'ch datblygiad proffesiynol yn fawr iawn. Yn ogystal â hyn, mae cymhwyster Rheoli Prosiectau o bwys i gyflogwyr a byddwch chi'n cael blas ar yrfa ym maes Prosiectau sy'n fedr trosglwyddadwy iawn.