Daniel Rees - Swyddog Sgiliau Digidol a Gweithredu

Enw: Daniel Rees

Blwyddyn dechrau'r brentisiaeth: 2020

Swydd bresennol: Swyddog Sgiliau Digidol a Gweithredu

Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dechrau'r brentisiaeth?

Cyn dechrau fy mhrentisiaeth, roeddwn i'n Gynorthwy-ydd Adnoddau Dynol i Gyngor RhCT.

Pam gyflwynoch chi gais am le ar y cynllun prentisiaethau?

Rydw i bob amser wedi bod â diddordeb ym maes TG ond roeddwn i'n ei gweld hi'n anodd dod o hyd i gyfleoedd i weithio yn y maes. Er i fi fwynhau fy rôl flaenorol, roedd cyfle i weithio mewn maes roeddwn i'n frwdfrydig amdano yn apelio'n fawr. Roedd y brentisiaeth yma'n gyfle perffaith i sefydlu seiliau cadarn a dechrau gyrfa newydd yn gwneud rhywbeth rwy'n ei fwynhau.

Pa gyfleoedd datblygu ydych chi wedi'u cael ers dechrau gweithio i Gyngor RhCT? (Ychwanegwch unrhyw gyfleoedd megis y coleg)

Rwy'n credu fy mod i wedi datblygu llawer ers dechrau fy mhrentisiaeth. Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i weithio gyda phobl wych ac wedi dysgu llawer gan fy nghyfoedion.

Rydw i wedi bod yn astudio ar gyfer fy nghymhwyster Datrysiadau TG Lefel 4. Rydw i wedi mwynhau'r cwrs sy'n llawn gwybodaeth. Mae wedi bod o fudd wrth i fi gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Beth oedd yr uchafbwyntiau?

Rydw i wir wedi mwynhau fy mhrentisiaeth. Rydw i wedi bod yn rhan o brosiectau gwych, gan gynnwys sefydlu Ystafell Argyfwng Digidol yn Nhŷ Elái. Rydw i hefyd wedi arwain y gwaith o sefydlu Ystafelloedd Hybrid Digidol mewn lleoliadau amrywiol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Y prif uchafbwynt oedd dod yn aelod o staff parhaol yn RhCT a derbyn swydd Swyddog Sgiliau Digidol a Gweithredu y byddaf i'n ei dechrau ar 1 Mai.

3 gair i ddisgrifio'ch prentisiaeth

Gwerthfawr - Ysbrydoledig - Trawsnewidiol

Argymhellion i ymgeiswyr:

Rwy'n argymell prentisiaeth i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais. Os ydych chi'n dechrau ym myd gwaith, neu'n awyddus i newid gyrfa, mae prentisiaeth yn ffordd wych o gael cymhwyster a pharhau i fod yn gyflogedig yn llawn amser.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud y brentisiaeth ac yn credu fy mod i wedi magu hyder a meithrin gwybodaeth a sgiliau fydd o fudd yn y dyfodol.