Danielle Day Jones - Cynorthwy-ydd Cyllid dan Brentisiaeth

Enw: Danielle Day-Jones

Blwyddyn dechrau (Prentisiaeth): Medi 2021

Swydd bresennol: Cynorthwy-ydd Cyllid dan Brentisiaeth (Refeniw/Treth y Cyngor)

Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dechrau'r brentisiaeth?

Cyn dechrau'r brentisiaeth yma roeddwn i'n gweithio'n llawn amser mewn ysgol feithrin. Roeddwn i'n mwynhau fy swydd yno ond doeddwn i ddim yn gallu dychmygu fy hun yn datblygu yn y rôl. Es i ar absenoldeb mamolaeth a chael merch fach, ac fe wnes i  gymryd blwyddyn i ffwrdd o fy swydd er mwyn treulio cymaint o amser gyda hi ag oedd yn bosib. Roeddwn i'n awyddus i ddatblygu fy ngyrfa, cael swydd roeddwn i'n ei mwynhau a swydd oedd yn golygu bod modd imi gael cydbwysedd rhwng fy ngwaith a fy nheulu. Roeddwn i'n gwybod bod prentisiaethau RhCT ar fin cael eu cyhoeddi ac roedd yn rhaid imi drio fy ngorau i ennill fy lle ar y rhaglen!

Pam cyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?

Roeddwn i'n adnabod pobl oedd wedi dod o hyd i'w gyrfaoedd trwy raglen Brentisiaethau RhCT ac felly penderfynais i roi cynnig arni. Rydw i wastad wedi mwynhau dysgu wrth weithio, ac roeddwn i'n aml yn cyflawni cymwysterau a chyrsiau er mwyn gwella fy nealltwriaeth a’m gwybodaeth. Roedd meddwl am weithio wrth ddysgu yn apelio'n fawr imi ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi manteisio ar y cyfle.

Pa gyfleoedd datblygu ydych chi wedi'u cael ers dechrau gweithio gyda Chyngor RhCT?

Ers dechrau fy mhrentisiaeth wyth mis yn ôl, rydw i wedi bod yn gweithio ar gwblhau cynhwyster Fframwaith Credydau a Chymwysterau (QCF) mewn Gweinyddu Busnes. Rydw i wedi dysgu cymaint yn barod trwy’r gwaith cwrs a thrwy fy ngoruchwylwyr, rheolwyr a chydweithwyr eraill. Rwy'n dysgu pethau newydd bob dydd.

Beth oedd yr uchafbwyntiau?

Rydw i wir wedi mwynhau fy mhrentisiaeth hyd yn hyn ac yn mwynhau cwblhau'r gwaith bob mis. Rwy'n gweithio o gartref weithiau ac mae'r swydd wedi golygu bod modd imi weithio'n hyblyg - mae hyn wedi bod yn fuddiol iawn i fy nheulu. Wrth imi ddatblygu a dysgu, rydw i wedi derbyn rhagor o gyfrifoldebau sy'n gwneud imi deimlo fy mod i ar y trywydd iawn.

Argymhellion i ymgeiswyr:

Byddwn i'n bendant yn argymell ymgeisio am brentisiaeth gyda Chyngor RhCT. Dyma'r penderfyniad gorau imi ei wneud erioed. Mae'n gyfle gwych - doeddwn i ddim yn credu byddai ffordd imi weithio'n llawn amser, cwblhau gwaith cwrs a magu plentyn ond rwy’ mor falch fy mod i wedi manteisio ar y cyfle. Rwy' wir yn mwynhau fy swydd ac yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd dros y ddwy flynedd nesaf.