Gyrfaoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Lleol mwyaf ond dau yng Nghymru gyda thua 10,000 o staff.

Rydyn ni'n angerddol dros ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'n trigolion i'w helpu i gyflawni eu potensial. Byddwn ni'n eich helpu i ddatblygu yn eich rôl fel y gallwch roi o'ch gorau a chael rhan werth chweil i'w chwarae wrth helpu eraill.

Mae swyddi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn amrywio o brentisiaid i uwch reolwyr, gan roi cyfleoedd i weithwyr gyda phob lefel o wybodaeth a phrofiad. 

I weld a yw eich rôl berffaith yn aros amdanoch chi cliciwch yma i chwilio ein swyddi gwag presennol. 

Cliciwch ar y penawdau isod i gael rhagor o wybodaeth am ddetholiad o'r gyrfaoedd a'r swyddi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

 

Gwaith Cymdeithasol a Gofal

Beth rydyn ni'n ei wneud?

Os hoffech chi ddilyn gyrfa werth chweil mewn gwaith cymdeithasol neu waith gofal, mae llawer o gyfleoedd yma yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf. Oeddech chi’n gwybod bod gennym ni nifer o gartrefi i’r henoed ynghyd â lleoliadau gofal seibiant a gofal oriau dydd. Rydyn ni hefyd yn rhoi cymorth i blant, eu teuluoedd a’u gwarcheidwaid, cymorth yn y cartref i bobl hŷn, gwasanaethau byw â chymorth i bobl ag anabledd dysgu, gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ac offer addasu a chymunedol ynghyd â llawer o wasanaethau eraill.

Pwy sy'n gweithio yma?

Mae swyddi gofal cymdeithasol yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau i Oedolion, Therapydd Galwedigaethol ac ystod eang o rolau Gweithiwr Cymorth sy'n cynnwys Gweithiwr Cymorth yn y Cartref, Cynorthwy-ydd Gofal/Cynnal Cartref, Gweithiwr Gofal Canolraddol ac Adsefydlu, ac Ymarferwyr Gofal Plant Preswyl.

Hoffech chi wybod rhagor? Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a rhestr o swyddi gofal cymdeithasol gwag.

Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Gwasanaethau Cymorth

Beth rydyn ni'n ei wneud?

Rydyn ni'n darparu gwasanaethau cymorth i'n trigolion a'n staff. Mae gwasanaethau cymorth i drigolion yn cynnwys*:

Canolfan Gyswllt – adnodd ffôn canolog i drigolion gael cymorth gyda materion yn amrywio o ymholiadau ynglŷn â Threth y Cyngor, rhoi gwybod am dyllau yn y ffyrdd i drefnu casgliadau arbennig o eitemau swmpus.

Canolfannau iBobUn – Gwasanaeth trwy apwyntiad yn unig lle mae modd i drigolion gael cymorth gyda’r materion a grybwyllwyd uchod ond mewn lleoliad wyneb yn wyneb.

Mae ein gwasanaethau cymorth mewnol yn cynnwys*:

  • Adnoddau Dynol
  • Gwasanaethau Cyllid a Digidol
  • TGCh
  • Cymorth i Fusnesau a Chymorth Glerigol

Pwy sy'n gweithio yma?

Mae rolau o fewn ein gwasanaethau i gwsmeriaid a gwasanaethau cymorth yn cynnwys Ymgynghorydd Canolfan Alwadau, Rheolwr Canolfan Alwadau, Swyddog Adnoddau Dynol, Cynorthwy-ydd Adnoddau Dynol, Cyfrifydd, Rheolwr Desg Gwasanaeth, Swyddog Cymorth i Fusnesau.

(*dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr)

Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd

Beth rydyn ni'n ei wneud?

Mae ein gwasanaethau'n cynnwys Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu sy'n darparu gwasanaethau rheoleiddio a gorfodi i fusnesau lleol hyd at y Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Profedigaethau.

Pwy sy'n gweithio yma?

Mae swyddi yn Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd yn cynnwys Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, Swyddog Tai a Swyddog Safonau Masnach.

Gofal a Glanhau'r Strydoedd

Beth rydyn ni'n ei wneud?

Mae'n debyg bod ein rolau gofal a glanhau strydoedd ymhlith y rhai mwyaf amlwg yn y Cyngor, gyda staff i'w gweld ledled Rhondda Cynon Taf wrth ymgymryd â'u dyletswyddau beunyddiol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys casglu sbwriel ac ailgylchu, glanhau strydoedd a glanhau cyfleusterau.

Pwy sy'n gweithio yma?

Mae rolau o fewn Gofal a Glanhau'r Strydoedd yn cynnwys Gweithiwr Ailgylchu, Arweinydd Tîm, Gweithiwr Glanhau, Glanhawr.

Hamdden, Parciau, Llyfrgelloedd, Diwylliant a gwasanaethau hamdden eraill

Beth rydyn ni'n ei wneud?

Ydych chi erioed wedi meddwl pwy sy'n gyfrifol am yr holl ganolfannau hamdden, llyfrgelloedd, theatrau, parciau a hyd yn oed y Lido ym Mharc Ynysangharad? Ni!

Pwy sy'n gweithio yma?
Mae swyddi yn Hamdden, Parciau a Diwylliant yn cynnwys Cynorthwy-ydd Llyfrgell, Cynorthwy-ydd Hamdden, Technegydd Goleuo, Ceidwad Parc.

Gwasanaethau Cymorth Technegol

Beth rydyn ni'n ei wneud?

Mae gyda ni garfanau o arbenigwyr technegol sy'n cynnwys syrfewyr, cynllunwyr a pheirianwyr sy'n gyfrifol am ddylunio, cynllunio ac adeiladu ffyrdd, pontydd a strwythurau newydd a chynnal strwythurau presennol i sicrhau eu bod nhw'n ddiogel. Mae gyda ni hefyd garfan sy'n gyfrifol am gynnal a chadw ein fflyd o gerbydau'r Cyngor, gan sicrhau eu bod nhw'n bodloni'r safonau diogelwch gofynnol.

Pwy sy'n gweithio yma?
Mae swyddi technegol yn cynnwys Peiriannydd, Cynorthwy-ydd Technegol, Syrfëwr, Cynorthwy-ydd Cymorth Rheoli Traffig, Technegydd a Mecanig Moduron.

Gwasanaethau Cymorth Addysg ac Ysgolion

Mae dros 100 o ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf, ac mae'r rhain wedi'u staffio gan athrawon, staff cymorth dysgu a gwasanaethau arlwyo. Mae ein Gwasanaeth Addysg a Chynhwysiant hefyd yn cael ei gefnogi gan y Gwasanaeth Lles a Phresenoldeb.

Pwy sy'n gweithio yma?
Mae rolau o fewn Gwasanaethau Cymorth Addysg ac Ysgolion yn cynnwys Athro, Cynorthwy-ydd Cymorth Anghenion Addysgol Arbennig, Seicolegydd Addysg, Gofalwr a Chynorthwy-ydd Clwb Brecwast

I chwilio am swyddi gwag mewn ysgolion, gweler ein tudalen swyddi mewn ysgolion ac e-teach. Bydd angen i chi chwilio ar y ddwy ddolen gan y gall cyfleoedd gwahanol gael eu hysbysebu ar wefannau gwahanol. Mae rhai rolau eraill sydd ddim yn ymwneud ag addysgu, megis arlwyo a glanhau, hefyd ar gael ar dudalen swyddi'r Cyngor.

Prentisiaethau a Rhaglenni i Raddedigion

P’un a ydych chi ar fin gadael yr ysgol neu’n chwilio am newid gyrfa, mae ein Prentisiaethau a Rhaglenni i Raddedigion yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth ar draws holl feysydd y Cyngor.

Arwain a Rheoli

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cydnabod pwysigrwydd a chyfraniad ein harweinwyr a rheolwyr wrth sicrhau llwyddiant sefydliadau a darparu gwasanaethau arloesol o safon.  Er mwyn sicrhau bod gan ein harweinwyr a’n rheolwyr yr offer sydd eu hangen i ragori yn eu rolau, nawr ac yn y dyfodol, rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i fuddsoddi yn eu datblygiad.

Mae cyfres o gyfleoedd dysgu a datblygu mewnol a ffurfiol ar gael i'n rheolwyr a'n darpar reolwyr. Os penderfynwch chi ymgymryd â rôl arwain neu reoli o fewn Cyngor Rhondda Cynon Taf, bydd ein hymrwymiad i'ch datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn sicrhau bod gennych chi'r sgiliau i reoli ac arwain ein pobl i lwyddo. 

Llwybrau at Gyflogaeth â Chymorth 

Mae'r rhain yn cynnwys: Cymunedau am Waith a Mwy, cymorth i bobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal a phrofiad gwaith

Cymunedau am Waith a Mwy
Rydyn ni’n cynnig nifer o raglenni cymorth cyflogaeth sydd wedi'u hariannu gan grantiau ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhain yn cynnig cymorth a chyngor i holl drigolion y Fwrdeistref Sirol sy'n hŷn nag 16 oed ac sy'n ceisio cyflogaeth, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli. Mae hefyd modd derbyn cymorth i ddatblygu eich sgiliau os ydych chi eisoes mewn cyflogaeth.

Pobl Ifainc â Phrofiad o Dderbyn Gofal

Mae Gwasanaethau i Blant a'r garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant wedi cydweithio i gynnig amrywiaeth o wasanaethau i bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal neu'r rheini sydd â Chynllun Gofal a Chymorth i'w helpu i ddod o hyd i waith neu hyfforddiant. Diben y rhaglenni yma, sy'n cael eu hadnabod fel 'GofaliWaith' a 'Camu i'r Cyfeiriad Cywir', yw rhoi’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen ar bobl ifainc i gael mynediad at gyfleoedd ystyrlon yn y llwybr gyrfa o’u dewis.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Profiad Gwaith

Mae ein rhaglen profiad gwaith yn galluogi pobl i gyflawni a/neu arsylwi ar ystod eang o dasgau neu ddyletswyddau, ond gyda phwyslais ar ddysgu. 

Cliciwch yma i wneud cais am brofiad gwaith.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am yrfaoedd mewn Llywodraeth Leol cliciwch yma i fynd i wefan Gyrfaoedd Llywodraeth Leol yng Nghymru lle byddwch chi hefyd yn dod o hyd i A-Y o yrfaoedd defnyddiol.

Mae gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ganllaw cynhwysfawr i Weithio mewn Llywodraeth Leol.

Tudalennau yn yr Adran Hon