Byw Yn Rhondda Cynon Taf

Mae Rhondda Cynon Taf yn lle gwych i fyw a gweithio.

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf dros 100 o ysgolion gan gynnwys Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd, Ysgolion Canol ar gyfer disgyblion 3-16/19 oed ac ysgolion ar gyfer y rhai ag Anghenion Addysgol Arbennig. Mae campws Trefforest Prifysgol De Cymru hefyd yn Rhondda Cynon Taf ac mae Prifysgol Caerdydd, sy’n Brifysgol Grŵp Russel, yn agos iawn. Mae gan y coleg addysg bellach, Coleg y Cymoedd, gampysau ar draws y fwrdeistref sirol hefyd. Mae prisiau tai cyfartalog yn £159,969. Gwerthodd fflatiau am bris cyfartalog o £177,037 a thai teras am £154,986 ym mis Rhagfyr2021.

Mae gyda ni dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, llawer o drefi a phentrefi i chi eu harchwilio a thirweddau syfrdanol sy'n berffaith ar gyfer gweithgareddau fel beicio, cerdded, golff, marchogaeth, beicio cwad a dringo creigiau. Mae yna atyniadau unigryw i ymweld â nhw, gan gynnwys theatrau hanesyddol, parciau, amgueddfeydd, Lido Cenedlaethol Cymru 'Lido Ponty', Profiad y Bathdy Brenhinol a'r wifren wib cyflymaf yn y byd yn nhwr Zip World, sy'n edrych dros ein tirwedd eiconig. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Rhondda Cynon Taf i’w gynnig ac i gael gwybod am yr ardal, ewch i’n tudalennau gwe ‘Ymweld â RhCT'

Mae mannau eraill o ddiddordeb hefyd yn agos gan fod Rhondda Cynon Taf wedi’i lleoli yn ne Cymru, cartref Caerdydd, prifddinas Cymru. Mae hefyd o fewn pellter teithio i Abertawe, sydd â rhai o draethau gorau'r DU ac mae Parc Cenedlaethol hardd Bannau Brycheiniog hefyd o fewn cyrraedd

 

Tudalennau yn yr Adran Hon