Skip to main content

Cyrsiau Diogelwch Bwyd a Datblygiad Maethol

Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu hyfforddiant i weithlu o dros 800 o bobl er mwyn cynnal safonau uchel a bodloni gofynion deddfwriaethol. Yn uchel ei barch, mae'r hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu hefyd ar gael i asiantaethau partner, sefydliadau ac unigolion annibynnol am bris cystadleuol.

Cewch chi ddewis! Rydyn ni'n darparu e-ddysgu, sesiynau wyneb yn wyneb traddodiadol (yn ddibynnol ar COVID-19) neu becynnau dysgu sy'n gyfuniad o'r ddau.

Mae cadw lle ar gwrs yn syml: 

Cam 1 – Nodwch y math o ddysgu a'ch pwnc

 Math o Ddysgu 1: E-ddysgu

Mae e-ddysgu yn rhoi cyfle i unigolion ddysgu gartref, gweithio ar gyflymder sy'n dderbyniol iddyn nhw ac ennill pwyntiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Pam cadw lle trwy Wasanaethau Arlwyo RhCT? 

  •      Mae pob cwrs ar gael trwy borth e-ddysgu rhyngweithiol ar-lein wedi'i ddarparu gan gwmni Highfield. Mae'r Gwasanaethau Arlwyo yn gweinyddu'r ymgeiswyr ar eich rhan.
  • Bydd y Garfan Hyfforddiant yn anfon y trwyddedau e-ddysgu yn uniongyrchol at yr ymgeisydd. Ar ôl darparu enw, bydd angen cyfeiriad e-bost neu rif ffôn er mwyn i ymgeiswyr gael eu manylion mewngofnodi unigryw.
  • Canllaw 'Gair i Gall' i gael y gorau o'r cymhwyster.
  • Os yw ymgeisydd yn ei chael hi'n anodd neu eisiau eglurhad ynghylch unrhyw ran o'r dysgu/cynnwys, bydd y Garfan Hyfforddiant ar gael i'w gefnogi dros y ffôn neu drwy e-bost/Teams (yn ystod oriau swyddfa).
  •      Os mai sefydliad ydych chi sy'n caffael trwyddedau ar ran eich gweithwyr, gall y Garfan Hyfforddiant roi adborth ar gynnydd y cymhwyster a faint o amser sy'n cael ei dreulio yn y rhaglen ddysgu. Pan fydd y cymhwyster wedi'i gwblhau, gallan nhw anfon copi o'r e-dystysgrif atoch chi fel bod gyda chi gofnod ohoni. (Nodwch, bydd rheolau GDPR yn berthnasol).

Bydd e-Lyfr y mae modd ei lawrlwytho yn cael ei ddarparu gydag opsiynau e-ddysgu (a dysgu cyfunol) dethol.

Table of training information
Pwnc e-Ddysgu                                                                                              Amser Astudio
(yn fras)
Gwybodaeth Flaenorol / Cynulleidfa DargedCost fesul ymgeisydd*
Diogelwch Bwyd Lefel 1  3 awr Dim, ond byddai gwybodaeth flaenorol yn ddymunol £17.00
Diogelwch Bwyd Lefel 2 6 awr Dim, ond byddai profiad o weithio mewn amgylchedd bwyd yn fanteisiol £23.00
Diogelwch Bwyd Lefel 3  18 awr Byddai Tystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel 2 yn ddymunol £149.50
Cyflwyniad i Alergenau 2 awr Ar gyfer y rheiny sy'n trin bwyd, neu sydd â chyfrifoldeb am reoli'r unigolion hynny.
Mae'r cwrs yma wedi'i achredu gan Allergy UK.
£19.50
Iechyd a Diogelwch Lefel 1

 

2 awr Delfrydol ar gyfer sesiynau cynefino gweithwyr neu ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno parhau ac ennill cymhwyster Iechyd a Diogelwch Lefel 2 £19.50
Iechyd a Diogelwch Lefel 2 3 awr Cyflwyniad da i faterion iechyd a diogelwch i unrhyw un sy'n gweithio mewn amgylchedd risg isel i ganolig. £25.00
Codi a Chario 30 – 60 munud Delfrydol ar gyfer sesiynau cynefino gweithwyr, hyfforddiant gloywi neu unrhyw un a fydd yn ymwneud â chodi a chario yn rhan o'i swydd. £18.00

*Prisiau fesul ymgeisydd. Mae'n bosibl bydd modd cynnig gostyngiad os ydych chi am dalu am nifer o bobl ar yr un pryd.

Math o Ddysgu 2: Dysgu Traddodiadol Wyneb yn Wyneb

Dysgu mewn grŵp ag eraill mewn lleoliad penodol, neu ar gyfer niferoedd mwy (dros 10), mae'n bosibl bydd modd i ni ddod atoch chi. Byddwn ni'n gweithredu system sy'n dilyn y rheolau ar weithio'n ddiogel oherwydd Covid-19. Bydd raid cyfyngu ar nifer y bobl sy'n gallu cymryd rhan yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth. Bydd gofyn i bawb ddarparu datganiad 'Rhydd rhag symptomau Covid-19' cyn cymryd rhan.

Table of information for training
Pwnc Wyneb yn Wyneb – Diogelwch Bwyd        AmserGwybodaeth Flaenorol                                                                                                  
Cost y pen
Dyfarniad Lefel 1 – Ymwybyddiaeth Diogelwch Bwyd wrth Arlwyo (Fframwaith Cymwysterau Rheoliadol – RQF) 3.5 awr Byddai gwybodaeth flaenorol yn ddymunol

 

£25
Dyfarniad Lefel 2 – Egwyddorion Diogelwch Bwyd (RQF) Diwrnod cyfan Dim, ond byddai profiad o weithio mewn amgylchedd bwyd yn fanteisiol £49.50
Dyfarniad Lefel 3 – Goruchwylio Diogelwch Bwyd wrth Arlwyo (RQF) 3 diwrnod cyfan  Byddai Tystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel 2 yn ddymunol £222
Dyfarniad Lefel 3 – Rheoli Alergenau Bwyd wrth Arlwyo (RQF) Diwrnod cyfan Byddai gwybodaeth flaenorol yn ddymunol

 

£65
Table of training information
Wyneb yn Wyneb - Cymorth Cyntaf                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                          Amser                                                                                                                Gwybodaeth Flaenorol / Cynulleidfa DargedCost y pen
Cymorth Cyntaf yn y Gwaith

(FAW – Lefel 3)

 

Opsiwn Dysgu Cyfunol ar gael (gweler isod) 

3 diwrnod

 

Addas i'r rheiny sy'n gyfrifol am ddarparu Cymorth Cyntaf yn y gwaith.

 

Yn cwmpasu'r holl Gymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gwaith, ynghyd â salwch ac anafiadau o bwys.

£135
Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Ailgofrestru

(FAW REQUAL – Lefel 3)

 

Opsiwn Dysgu Cyfunol ar gael (gweler isod)  
2 ddiwrnod

 

Yn addas ar gyfer y rheiny sydd â thystysgrif FAW gyfredol ac sydd angen hyfforddiant gloywi. Bydd angen cyflwyno'r dystysgrif yn dystiolaeth. £89
Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gwaith

(EFAW – Lefel 3)

 

 

Dysgu atodol ar-lein ar gael
1 diwrnod  Addas i'r rheiny mae angen sgiliau Achub Bywyd sylfaenol yn y gwaith. 

 

Yn ymdrin â rolau a chyfrifoldebau'r sawl sy'n darparu cymorth cyntaf, Adfywio Cardio-pwlmonaidd a Chyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig (Cynnal Bywyd Sylfaenol), tagu, mân anafiadau.
£55
Cymorth Cyntaf Paediatrig

(PFA – Lefel 3)

 

Opsiwn Dysgu Cyfunol ar gael (gweler isod)  
2 ddiwrnod Addas i'r rheiny sy'n gyfrifol am ddarparu Cymorth Cyntaf Paediatrig yn y gwaith.

 

Yn cwmpasu'r holl Gymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gwaith, ynghyd â salwch ac anafiadau o bwys. (0-8 oed)
£89
Cymorth Cyntaf Paediatrig mewn Argyfwng

(EPFA – Lefel 3)

 

Dysgu atodol ar-lein ar gael

1 diwrnod 

Addas i'r rheiny sydd angen sgiliau Achub Bywyd sylfaenol ar gyfer plant.

 

Yn ymdrin â rolau a chyfrifoldebau'r sawl sy'n darparu cymorth cyntaf, Adfywio Cardio-pwlmonaidd a Chyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig (Cynnal Bywyd Sylfaenol), tagu, gwaedu mawr, mân anafiadau. (0-8 oed)

£59

Cynnal Bywyd Sylfaenol a Defnyddio Cyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig yn Ddiogel


(BLS & AED – Lefel 2)

Hanner diwrnod 

Addas i'r rheiny sydd angen sgiliau Achub Bywyd sylfaenol.

 

Yn cwmpasu Adfywio Cardio-pwlmonaidd a Chyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig (Cynnal Bywyd Sylfaenol)

£35


Math o Ddysgu 3: Dysgu cyfunol

Heb unrhyw gost ychwanegol i'r dysgwr, mae'r opsiwn yma'n rhoi cyfle iddyn nhw ymgymryd â rhywfaint o'r dysgu ar-lein pryd bynnag sy'n gyfleus iddyn nhw (cyn cymryd rhan yn y cwrs). Bydd hwylusydd y Cwrs yn gwirio gwybodaeth dysgwyr ar ddiwrnod cynta'r cwrs cyn bwrw ymlaen ag unrhyw wybodaeth ychwanegol / hwyluso asesiadau ymarferol.

Table of training information
Pwnc Dysgu Cyfunol – Cymorth Cyntaf                                                                                                                                 Opsiwn Cyfunol

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith

(FAW – Lefel 3)

Amnewid 1 diwrnod o'r cwrs 3 diwrnod 

wyneb yn wyneb gyda phecyn e-ddysgu

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Ailgofrestru

(FAW REQUAL – Lefel 3)

Amnewid 1 diwrnod o'r cwrs 2 ddiwrnod 

wyneb yn wyneb gyda phecyn e-ddysgu

Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle

(EFAW – Lefel 3)

Mae modd cwblhau pecyn dysgu rhagarweiniol ar-lein cyn cymryd rhan, ond fydd hyn ddim yn disodli unrhyw amser dysgu wyneb yn wyneb.

 

Nodwch: Mae modd prynu'r pecyn ar-lein yma ar ei ben ei hun i fod yn rhan o hyfforddiant gloywi blynyddol. Prisiau ar gael ar gais.
Cymorth Cyntaf Paediatreg

(PFA – Lefel 3)

Amnewid 1 diwrnod o'r cwrs 2 ddiwrnod
wyneb yn wyneb gyda phecyn e-ddysgu


Cam 2 – Cysylltwch â ni

Os ydych chi'n dymuno trefnu cwrs neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.

Gwasanaethau eraill

Mae'r Gwasanaethau Arlwyo hefyd yn darparu Gwasanaethau Ymgynghori Sicrhau Ansawdd. Mae Swyddogion Cymorth ar gael i fonitro safonau bwyd a diogelwch, cynnal archwiliadau hylendid, rhoi cyngor yn ymwneud â hylendid a chynorthwyo â gwaith paratoi dogfennau Dadansoddi Peryglon.

Taliadau

E-Ddysgu / Dysgu Cyfunol – Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn anfon anfoneb* a chyfarwyddiadau talu atoch chi pan rydych chi'n prynu'r drwydded. Does dim modd cael ad-daliad.

Dysgu Wyneb yn Wyneb Traddodiadol – Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn anfon anfoneb* ar ôl y sesiwn/sesiynau. Os does dim modd i chi gymryd rhan yn y cwrs, rydyn ni'n gofyn yn garedig am o leiaf 72 awr o rybudd. Mae'n bosibl y byddwn ni'n codi tâl arnoch chi os ydych chi'n canslo ar ôl y cyfnod yma.
*(Mae'n bosibl y bydd modd i adrannau mewnol Cyngor Rhondda Cynon Taf drosglwyddo arian i dalu am gyrsiau. Nodwch fanylion eich canolfan gost a'ch cod pan rydych chi'n cadw lle.)

 

Gwasanaethau Arlwyo

 

Ffôn: 01443 281470