Skip to main content

Cysgodfa bysiau – Rhowch wybod am broblem

Mae buddsoddiad sylweddol wedi bod ar gyfer gwella arosfannau bysiau amrywiol o amgylch Rhondda Cynon Taf.

Os ydych chi'n sylwi ar broblem ag arosfan bysiau, mae modd i chi rhoi gwybod am y broblem ar-lein.

Hwb Ariannol i Arosfannau Bysiau Cwm Cynon 

Mae menter Blaenau'r Cymoedd yn gynllun adfywio dros 15 mlynedd, sy'n cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru, ac yn gweithio er budd cymunedau ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Torfaen, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Bwriad y gwaith ydy ysgogi adfywiad, cael twf economaidd a gwella'r amgylchedd. Mae'r rhaglen gwerth £140 miliwn yn gwneud Blaenau'r Cymoedd yn lle mwyfwy llwyddiannus a deniadol i bobl fyw a gweithio ynddo.

Mae teithwyr sy'n teithio ar ddau lwybr bysiau prysur yng Nghwm Cynon bellach yn elwa o'r buddsoddiad gwerth bron £400,000 i wella eu harosfannau bysiau.

Mae'r cyllid wedi cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau i deithwyr ym mhob arosfan bysiau rhwng Hirwaun-Aberdâr-Glynhafod a rhwng Aberdâr-Aberpennar. Cafodd y cyllid ei sicrhau gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r cynllun adfywio Blaenau'r Cymoedd.

Mae'r rhain yn cynnwys offer newydd i helpu teithwyr i fynd ar/oddi ar y bws, arwyddion newydd, gwybodaeth am y gwasanaeth a chysgodfeydd newydd wrth yr arosfannau bysiau prysuraf.

Mae'r buddsoddiad hwn wedi gwella ansawdd cyffredinol y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal. Hefyd, mae'n cyd-daro â chyflwyno fflyd o fysiau mynediad hawdd, modern ar hyd y llwybr gan y gweithredwr Stagecoach.

Mae'r Cyngor hefyd wedi cynnal gwaith gwella ar nifer o arosfannau bysiau eraill yn ardal Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad pellach, a gafodd ei sicrhau drwy gyfraniadau'r Sector Preifat, y Bartneriaeth Adnewyddu Cymdogaeth ac o gyllideb y Cyngor ei hun.

Cynllun Adnewyddu Canol Tref y Porth

A hithau'n croesawu teithwyr i Gymoedd y Rhondda, canol tref y Porth yw un o leoedd mwyaf allweddol yr ardal.

Fel rhan fawr o'r cynllun i adfywio canol y dref, a darparu cyfleusterau gwell i deithwyr sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi darparu cysgodfeydd bysiau newydd o ansawdd uchel, codi ymylon palmentydd ar gyfer mynediad haws i fysiau a gwell arddangosfeydd gwybodaeth.

Yn ystod y gwaith adnewyddu, doedd dim llawer o darfu i'r gwasanaethau bysiau, ac roedd trefniadau eraill, dros dro ar waith.

Mae manylion yr arosfannau yng nghanol tref y Porth sy'n cael eu defnyddio ar gael o wasanaeth ymholiadau Traveline ar 0871 200 22 33 neu www.traveline.info

Cynllun Gwella Llwybr Bysiau Pontypridd-Caerdydd

Mae cyllid wedi'i sicrhau, drwy Gynghrair Trafnidiaeth Dde-ddwyrain Cymru (SEWTA), i wella'r arosfannau ar hyd y llwybr bysiau rhwng Pontypridd a Chaerdydd, ac i ddarparu cyfleusterau gwell i deithwyr.

Mae'r rhain yn cynnwys offer newydd i helpu teithwyr i fynd ar/oddi ar y bws, arwyddion newydd, gwybodaeth am y gwasanaeth a chysgodfeydd newydd wrth yr arosfannau bysiau prysuraf.

Yn ogystal â hyn, mae gwaith yn cael ei wneud i newid nifer o gyffyrdd allweddol ar hyd y llwybr, er mwyn lleihau'r oedi i fysiau a gwella dibynadwyedd y gwasanaeth.

Manylion Cyswllt 

Uned Trafnidiaeth Integredig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,

Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
CF37 1DU

Ffôn: 01443 425001