Skip to main content

Llifogydd mewn draeniau a chwteri – Adrodd am broblem

Mae llifogydd yn digwydd am nifer o resymau, ac mae gwahanol sefydliadau yn gyfrifol am fynd i'r afael â llifogydd mewn gwahanol sefyllfaoedd. 

Mae modd i griliau a gratiau (e.e. ar gwteri) gael eu rhwystro’n gyflym pan fydd deunyddiau fel mwd ar y ffordd neu os bydd llawer o ddail yn cwympo.

Gyli yw un o'r cilfachau draen sydd wedi'i lleoli yn y ffordd wrth ymyl y palmant ac sydd fel arfer wedi'i gorchuddio â gratin rhychog. Ei bwrpas yw casglu dŵr wyneb o'r briffordd.

Cwlfert yw lle mae nant neu gwrs dŵr yn llifo o dan y ddaear mewn pibellau neu strwythurau.

Mae modd rhoi gwybod am broblem gyda draeniau sy'n gorlifo ar y ffyrdd ar-lein
Os oes angen mynd i'r afael â'r draen neu'r gwter sy'n gorlifo ar frys, ffoniwch ni gan ddefnyddio'r rhif ffôn argyfwng – 01443 425001 (y tu allan i oriau'r swyddfa – 01443 425011).

Os mai piben ddŵr sy’n gyfrifol am lifogydd ar ffordd, y cwmni dŵr fydd yn gyfrifol am atgyweirio’r difrod.

Proffil y ffordd sy’n cyfeirio’r dŵr at y draeniau. Mae pyllau’n dueddol o ddigwydd os oes pant yn y ffordd. Mae modd i hyn gael ei gywiro lle bo angen drwy wneud gwaith adfer lleol ar wyneb y ffordd.

Llifogydd o Garthffos Gyhoeddus

Y cwmni dŵr sydd yn berchen ar y rhwydwaith o garthffosydd dŵr brwnt a dŵr ar yr wyneb a’r cwmni dŵr sydd hefyd yn eu rheoli. Mae’r rhan fwyaf o garthffosydd cyhoeddus ar brif ffyrdd ac mae gan y Cyngor gopi o fapiau’r carthffosydd – mae modd eu gweld yn Swyddfeydd y Cyngor.

I roi gwybod am garthffos gyhoeddus sy’n gorlifo, ffoniwch Wasanaethau i Gwsmeriaid Kelda Water Services ar ran Dŵr Cymru ar 08000 853968.

Llifogydd o Garthfosydd neu Ddraeniau Preifat

Os ydy’ch draeniau neu garthffosydd chi’n gorlifo, bydd raid i chi gael gafael ar gontractwr draenio i fynd i’r afael ag unrhyw rwystr. Os nad ydych chi’n siŵr os yw’r rhwystr mewn carthffos gyhoeddus neu breifat, fe ddylai’r cwmni dŵr allu dweud hyn wrthoch chi unwaith y byddan nhw wedi gweld y safle. Byddan nhw’n gofyn i chi ad-dalu cost unrhyw waith ar garthffosydd preifat.

Llifogydd ar Briffordd Gyhoeddus

Cysylltwch â ni i roi gwybod am lifogydd ar briffordd gyhoeddus neu gwteri neu gratiau ar yr heol sy wedi’u blocio.

Llifogydd o Brif Bibell Ddŵr

Dŵr Cymru yw’r cwmni cyflenwi dŵr lleol.

Cysylltwch â Dŵr Cymru - Ffôn: 08000 520130.

Y cwmni dŵr sy’n gyfrifol am eu cyflenwad nhw o ddŵr hyd at y stopfalf, gan gynnwys y stopfalf ei hun.

Llifogydd o Bibell Gwasanaethau Dŵr neu Bibell Fewnol

Perchennog y tŷ neu’r landlord sy’n gyfrifol am hyn a byddai angen cymorth plymwr i’w drwsio.

Llifogydd o Brif Afon

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y prif afonydd.

Ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru - 0300 065 3000.

Hefyd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal "Floodline", sef llinell 24 awr sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a rhybudd llifogydd: 0345 988 1188.

Llifogydd o Gwrs Dŵr, heblaw am y Prif Afonydd

Perchennog Glannau’r Afon sy’n gyfrifol am gyrsiau dŵr, heblaw am y prif afonydd. Rydych chi’n berchennog glannau’r afon os yw’ch tir ar gwrs dŵr neu’n agos iawn ato. Mae dyletswydd ar berchnogion glannau’r afon i gadw unrhyw beth all rwystro’r llif oddi ar y cwrs dŵr. Gall y Cyngor roi rhybudd cyfreithiol i berchnogion glannau’r afon a'u gorchymyn i glirio unrhyw rwystrau. Bydd rhai cyrsiau dŵr “strategol” y mae posibilrwydd uchel y bydd llifogydd mewn eiddo os byddan nhw’n blocio yn cael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd gan gontractwr y Cyngor.

Darparu Bagiau Tywod i Amddiffyn rhag Llifogydd

Mae’r Cyngor yn darparu bagiau tywod i drigolion yr ardal mewn argyfyngau i’w helpu nhw i ddiogelu’u cartrefi rhag llifogydd. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn argymell bod trigolion sy’n gwybod bod eu cartrefi mewn perygl o ddioddef llifogydd e.e. am eu bod yn agos at gwrs dŵr, yn prynu bagiau tywod o gyflenwyr adeiladwyr er mwyn iddyn nhw allu paratoi ar gyfer y llifogydd yn gynnar. Efallai na fydd modd i gontractwr y Cyngor gyrraedd pob cartref cyn i’r llifogydd ddigwydd.

Gallwch ofyn am fagiau tywod drwy ffonio 01443 425001

Cyngor am lanhau ar ôl llifogydd

Mae’r canllawiau a thaflenni gwybodaeth isod yn darparu cyngor ar lanhau ar ôl llifogydd.