Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin – Goleuadau sy'n cael eu diffodd am ran o'r nos

Beth yw 'goleuadau am ran o'r nos'?

Mae 'goleuadau am ran o'r nos' yn derm rydyn ni'n ei ddefnyddio ar gyfer goleuadau stryd sy'n diffodd am ran o'r nos. Bydd y goleuadau sy'n cael eu heffeithio yn cael eu cynnau wrth iddi nosi (yn ôl yr arfer), ond byddan nhw'n cael eu diffodd rhwng 1am a 6am yn ystod Amser Haf Prydain, a rhwng hanner nos a 5am yn ystod y gaeaf.

Pa arbedion fydd yn cael eu gwneud wrth weithredu goleuadau am ran o'r nos?

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn gwario £1.5m y flwyddyn ar ynni i weithredu goleuadau'r stryd. Rydyn ni'n rhagweld y bydd gweithredu goleuadau stryd am ran o'r nos yn arbed dros £300,000 y flwyddyn.

Pa fanteision eraill sydd?

Mae goleuadau stryd yn cyfrif am bron i 20 y cant o'r 37,000 tunnell o allyriadau carbon a gafodd eu cynhyrchu gan y Cyngor yn 2013/14. Drwy leihau'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio ar oleuadau stryd, rydyn ni'n lleihau ein hallyriadau CO2, gan gyrraedd ein targedau. Ynghyd ag arbed arian a lleihau allyriadau carbon, bydd 'gwawl' neu lygredd golau yn lleihau yn sylweddol, gan eich galluogi chi i weld awyr y nos yn gliriach.

A fydd yr holl oleuadau yn cael eu heffeithio?

Na fyddant. Bydd rhai lleoliadau lle fydd y cynllun yma ddim yn cael ei weithredu. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • rhannau o'r briffordd a allai fod yn beryglus, fel cylchfannau, cyffyrdd sy'n cael eu rheoli gan signalau traffig, ynysoedd yng nghanol y ffordd, nodweddion lleihau traffig, twmpathau ac ati.
  • croesfannau ffurfiol i gerddwyr
  • canol trefi

Pryd fydd y goleuadau yn cael eu diffodd?

Rydyn ni wedi cytuno i ddiffodd y goleuadau yn raddol o Hydref 2014.

Faint o oleuadau fydd yn cael eu heffeithio?

Ein nod yw gweithredu hanner o oleuadau stryd y Fwrdeistref Sirol (tua 14,000) am ran o'r nos.

Oes hawl gyfreithiol gan y Cyngor i ddiffodd y goleuadau?

Oes. Does dim gofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol y DU i oleuo'r briffordd.

Ydy goleuadau stryd wedi cael eu diffodd yn rhannau eraill o'r wlad?

Ydynt. Mae diffodd goleuadau am ran o'r nos wedi bod yn effeithiol mewn sawl awdurdod Lleol yng Nghymru, gan gynnwys Powys, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Fynwy, a Phen-y-Bont ar Ogwr. Mae nifer o gynghorau eraill ar draws y DU hefyd yn gweithredu'r cynllun goleuadau am ran o'r nos yn llwyddiannus.

Fydd y cyfyngiadau cyflymder o 30mya yn aros os bydd goleuadau yn cael eu diffodd?

Byddant. Mae cyfyngiad cyflymder o 30mya yn berthnasol i unrhyw ffordd sy'n cynnwys rhes o oleuadau stryd sydd yn llai na 200 troedfedd ar wahân, oni bai bod arwyddion yn nodi cyfyngiad cyflymder gwahanol. Does dim rhaid cadw goleuadau ymlaen drwy'r nos er mwyn i'r cyfyngiad cyflymder fod yn berthnasol.

Oes modd pylu'r goleuadau yn hytrach na'u diffodd yn gyfan gwbl?

Does dim modd pylu rhai mathau o oleuadau, ond rydyn ni eisoes wedi addasu'r rheiny y mae modd eu pylu. Ymhen ychydig flynyddoedd, byddwn ni'n pylu'r goleuadau newydd lle bo'n briodol.

Oes modd gosod bylbiau sy'n defnyddio llai o ynni?

Yn anffodus, nac oes. Er mwyn newid i fylbiau sy'n defnyddio llai o ynni, byddai rhaid ailosod yr offer reoli. Fyddai hyn ddim yn gost effeithiol. Pan fyddwn ni'n ailosod neu'n gwella goleuadau mewn ardal, rydyn ni bob amser yn ceisio defnyddio offer sy'n defnyddio llai o ynni. Ond byddwn ni dal yn gweithredu'r goleuadau am ran o'r nos er mwyn sicrhau'r arbedion gofynnol.

Oes modd dewis pa amseroedd mae'r goleuadau yn gweithredu y tu allan i fy nhŷ?

Nac oes. Bydd yr holl oleuadau'n cael eu trin yr un peth ar draws RhCT.

Rydw i'n parcio fy nghar ar y stryd. Fydd goleuadau am ran o'r nos yn effeithio ar hyn?

Rydyn ni'n cydnabod fod dim mannau parcio oddi ar y stryd ar gael mewn nifer o strydoedd preswyl, neu fod y galw am fannau parcio yn fwy na'r hyn sydd ar gael, ac felly mae preswylwyr yn parcio eu cerbydau ar y ffordd. O ganlyniad i'r goleuadau newydd sy'n gweithredu am ran o'r nos, mae'n fwy pwysig nac erioed i chi ddilyn rheolau'r ffordd fawr os ydych chi'n parcio eich cerbyd ar y ffordd dros nos. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cerbyd o fewn golwg pobl eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd. Mae rheolau'r ffordd fawr yn nodi fod dim hawl i chi barcio cerbyd sy'n wynebu yn erbyn llif y traffig ar y ffordd gyda'r nos, oni bai eich bod chi'n parcio mewn man parcio cydnabyddedig. Mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am barcio ar wefan Gov.uk.

Sut alla i gynnig fy sylwadau am y cynllun?

Cewch chi anfon llythyr neu e-bost at adran goleuo strydoedd y Cyngor gan ddefnyddio'r manylion isod

Goleuadau Stryd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Sardis,
Sardis Road,
Pontypridd,
CF37 1DU