Skip to main content

Toiledau Cyhoeddus

Mae'r holl Gyfleusterau Cyhoeddus bellach AR AGOR.

Bydd toiledau ar agor rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd y cyfleusterau'n cael eu glanhau yn rheolaidd a gofynnwn i'r cyhoedd ddangos parch iddyn nhw a'r staff glanhau. Bydd unrhyw gamddefnydd neu fandaliaeth yn arwain at gau'r cyfleuster dan sylw ar unwaith.

Mae'r toiledau ym Mharc Coffa Ynysangharad ar agor rhwng 8.30am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Mae'r toiledau ym Mharc Aberdâr a Pharc Gwledig Cwm Dâr hefyd yn parhau ar agor, 7 diwrnod yr wythnos rhwng 9am a 4pm.

Ydy’r Cyngor yn darparu cyfleusterau cyhoeddus?

Rydyn ni’n darparu nifer fawr o gyfleusterau cyhoeddus drwy’r sir ac ni sy’n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw, a’u cadw nhw’n lân hefyd. Mae cyfleusterau cyhoeddus yn cael eu glanhau o leiaf tair gwaith y dydd.

Pan fo'n bosibl, bydd cyfleusterau anabl a chyfleusterau newid cewynnau yn cael eu darparu. Mae'r rhestr isod yn cynnwys lleoliadau pob cyfleuster cyhoeddus sydd ar gael.

Bwriwch olwg ar y Strategaeth Toiledau Lleol.

Rhoi gwybod am broblem gyda thoiled cyhoeddus.

Ydy’r Cyngor yn darparu cyfleusterau i bobl anabl ar yr un safle â’r cyfleusterau cyhoeddus?

Rydyn ni'n darparu cyfleusterau anabl pan fo hynny'n bosibl. Mae'r rhestr o doiledau isod yn cynnwys yr holl gyfleusterau sydd ar gael.

Sut mae mynd i mewn i’r cyfleusterau i bobl anabl?

Rydyn ni’n rhan o’r Cynllun Allweddi Cenedlaethol sy’n cynnig mynediad annibynnol i bobl anabl i tua 7,000 o doiledau cyhoeddus ar hyd a lled y wlad.

Beth yw ‘allwedd radar’?

Mae ‘allwedd radar’ yn rhoi mynediad i doiledau penodol i bobl anabl yn Rhondda Cynon Taf ac ar hyd a lled y wlad.

Pwy sydd i fod i gael ‘allwedd radar’?

Mae’r allwedd ar gael i unrhyw berson anabl sy’n derbyn cyfradd uwch y Budd-dal Anabledd (Elfen Symudedd) neu sydd â bathodyn parcio anabl glas.

Ble mae cael allwedd?

Ar hyn o bryd, mae Rhondda Cynon Taf yn rhoi ‘allweddi RADAR’ yn rhad ac am ddim yn ei ganolfannau ibobun yn Nhreorci, Pontypridd, Porth, Aberpennar ac Aberdâr.

Ewch i ganolfan ibobun gyda thystiolaeth o gymhwysedd (cadarnhau o Lwfans Byw i'r Anabl ar y gyfradd uchaf (yr elfen symudedd) neu eich bathodyn glas) a gofynnwch am allwedd RADAR. Ar ôl i chi ddarparu'r dogfennau perthnasol, byddwch chi'n derbyn allwedd am ddim a byddwn ni'n cadw cofnod o'r ffaith eich bod chi wedi derbyn un.

Mae’r Cyngor yn gofyn am brawf eich bod chi’n gymwys er mwyn cydymffurfio â chanllawiau RADAR ac er mwyn sicrhau mai dim ond pobl anabl sy’n derbyn allweddi.

Bydd staff ddim ond yn rhoi allwedd i chi os byddwch chi’n dangos prawf eich bod chi’n gymwys. Mae hyn er mwyn osgoi camddefnyddio’r cyfleusterau gan bobl sydd ddim yn anabl.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am wasanaethau Radar, cysylltwch â nhw ar 020 7250 3222 neu ewch i’w gwefan (Saesneg yn unig) www.radar.org.uk

Ble mae’r prif doiledau cyhoeddus?

Nodwch: Mae'r toiledau cyhoeddus ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 9am a 5pm. Maen nhw ar gau ar ddydd Sul. Mae toiledau anabl ar agor 24/7 i unrhyw un ag allwedd Radar.

TrefStrydCyfleusterau i'r AnablCyfleusterau newid cewyn

Aberdâr

Yr orsaf fysiau, Stryd y Dug, Aberdâr, CF44 7ED

Oes

Oes

Aberdâr

Rhiw'r Mynach

Oes

Oes

Cwmaman

Alexandra Terrace, Ffordd Fforchaman, Cwmaman, CF44 0RG

Oes

Nac oes

Ysgol Gymuned Glynrhedynog

Stryd y Llyn, Glynrhedynog

Nac oes

Nac oes

Hirwaun

Heol Uchel, Hirwaun, Aberdâr, CF44 9SU

Nac oes

Nac oes

Maerdy

Parc Maerdy , y Maerdy, CF43 4DB

Oes

Nac oes

Aberpennar

Stryd Rhydychen, Aberpennar, CF45 3HD

Oes

Oes

Pentre

Heol Ystrad, Pentre, CF41 7PH

Oes

Oes

Pen-y-graig

91 Heol Tyle-celyn, Pen-y-graig, CF40 1JR

Oes

Oes

Pontypridd

Yr Orsaf Fysiau, Stryd Morgan, Pontypridd, CF37 2DR

Oes

Oes

Porth

Stryd Hannah, Porth, CF39 9PY

Oes

Oes

Porth

Heol Pontypridd, Porth, CF39 9PL

Oes

Oes

Tonysguboriau

Heol Talbot, Tonysguboriau, Pont-y-clun, CF72 8AD

Oes

Oes

Tonypandy

Stryd Dunraven, Tonypandy, CF40 1QB

Oes

Nac oes

Treherbert

Stryd Bute, Treherbert, CF42 5NP

Oes

Oes

Treorci

Heol yr Orsaf, Treorci, CF42 6NN

Oes

Oes

Ynys-hir

Heol Ynys-hir, Ynys-hir, Y Porth, CF39 0EL

Nac oes

Nac oes

Ynys-y-bŵl

Maes Windsor, Ynys-y-bwl, Pontypridd, CF37 3HR

Oes

Nac oes

Ble mae’r wrinalau?

Nodwch: Mae'r wrinalau ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Ardal

Stryd

Ynys-hir*

Heol Aber-Rhondda, Ynys-hir, Y Porth, CF39 0DU

Blaen-cwm*

Heol Hendre-wen, Blaen-cwm, Treorci CF42 5DR

 Blaenrhondda*

Heol Blaenrhondda, Blaenrhondda, Treorci, CF42 5SP

Coed-elái*

Heol Isaf, Coed-elái, Y Porth, CF39 8BT

Cwm-parc*

Heol y Parc, Cwm-parc, Treorci, CF42 6LF

Glynrhedynog*

Teras y Graig,Glynrhedynog, CF43 4EU

Mynwent Glynrhedynog*

Crib-y-ddôl, Glynrhedynog, CF43 4TA

Y Gelli*

Stryd Rees, Y Gelli, Y Pentre, CF41 7NE

Llwynypïa*

Heol Llwynypïa, Llwynypïa, Tonypandy, CF40 2HZ

Y Maerdy*

Crib-y-ddôl, Y Maerdy, Glynrhedynog, CF43 4TA

Y Pentre*

Heol Ystrad, Y Pentre, CF41 7PN

Pen-y-graig*

Teras yr Alarch, Pen-y-graig, Tonypandy, CF40 1HJ

Pont-y-gwaith*

Brewery Road, Pont-y-gwaith, Glynrhedynog, CF43 3LH

Pontypridd*

Broadway, Pontypridd, CF37 1BD

Y Porth*

Heol Aber-rhondda, Y Porth, CF39 0LD

Tonypandy*

Stryd De Winton, Tonypandy, CF40 2QU

Trealaw*

Heol Brithweunydd, Trealaw, Tonypandy, CF40 2UG

Trehafod*

Heol Trehafod, Trehafod, Pontypridd, CF37 2LL

Tylorstown*

Heol y Dwyrain, Tylorstown, Glynrhedynog, CF43 3BY

Tylorstown*

Trem Hyfryd, Tylorstown, Glynrhedynog, CF43 3NF

Tynewydd*

Teras Sant Alban, Treherbert, Treorci, CF42 5DB

Ynys-wen*

Heol Ynys-wen, Ynys-wen, Treorci, CF42 6EG

Ynys-wen

Heol Gelligaled

Ystrad*

Stryd Wiliam, Ystrad, CF41 7QS

Ystrad*

Heol Gelligaled, Ystrad, CF41 7RQ

Ble mae'r toiledau cyhoeddus awtomatig (APC)?

Nodwch: Mae'r toiledau cyhoeddus awtomatig ar agor drwy'r amser a fyddan nhw ddim yn cau yn ystod Gwyliau Banc (Amseroedd Prysur) ond bydd angen talu ffi (20c) i'w defnyddio.

APCCyfeiriad yr APCLleoliad yr APC

APC Tonyrefail

Heol Waunrhydd,
Tonyrefail,
Y Porth,
CF39 8EN

Mae'r toiled cyhoeddus awtomatig (APC) wedi'i leoli cyn y bont, wrth y gyffordd sy'n arwain i Ystad Ddiwydiannol Gelligron.

APC Tonypandy 

Heol Llwynypïa,
Tonypandy,
CF40 2EP

Mae'r toiled cyhoeddus awtomatig wedi'i leoli tu allan i brif fynedfa adeilad y Ganolfan Byd Gwaith.

APC Abercynon

Maes Parcio Stryd Margaret,
Abercynon,
Aberpennar,
CF45 4RE

Mae'r toiled cyhoeddus wedi'i leoli yn y maes parcio cyhoeddus
ar ben pellaf Stryd Margaret.

APC Llanharan

Teras y Rhosyn,
Llanharan,
Pont-y-clun,
CF72 9GU

Mae'r toiled cyhoeddus awtomatig wedi'i leoli ar Deras y Rhosyn wrth y gyffordd â Heol Llanhari, tu ôl i'r safle bws.

Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd

Gwasanaeth Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf,

Tŷ Glantaf,
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest,
Pontypridd
CF37 5TT

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01143 844310