Skip to main content

Arwyddion Enwau Strydoedd

Y Cyngor sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod arwyddion enwau strydoedd yn cael eu darparu a’u gosod mewn mannau addas.

Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu dod o hyd i’r ffordd gywir yn gyflym ac yn effeithlon, yn enwedig pan fyddwn yn teithio i ardaloedd llai cyfarwydd. Yn fwy na dim, mae’n bwysig bod y Gwasanaethau Brys yn gallu dod o hyd i chi a’ch stryd yn gyflym mewn argyfwng.

Y Cyngor sydd hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw arwyddion enwau strydoedd os byddan nhw’n cael eu difrodi oherwydd fandaliaeth neu oherwydd traul arferol.

Defnyddiwch y manylion cyswllt isod i ddweud wrthon ni os ydych chi’n gwybod am arwydd stryd sydd wedi’i ddifrodi, ar goll neu’n aneglur.

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 494888