Skip to main content

Draenio Cynaliadwy

Ar 7 Ionawr 2019, mae Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 sy'n ymwneud â Draenio Cynaliadwy yn dod i rym.

O'r dyddiad yma, bydd raid i systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol gorfodol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy. Ar hyn o bryd mae'r safonau yma wedi cael eu cyhoeddi yn Safonau Cenedlaethol Statudol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDs) yng Nghymru.'

Mae'r ymagwedd Draenio Gynaliadwy tuag at ddraenio dŵr wyneb yn cyfrannu at wireddu nodau lles o fewn fframwaith Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

Beth yw Draenio Cynaliadwy?

Mae rhagor o wybodaeth am Ddraenio Cynaliadwy ar gael ar Wefan Susdrain

Mae systemau draenio cynaliadwy (SuDS) yn gasgliad o arferion rheoli dŵr wyneb sy'n anelu at gysoni systemau draenio modern â phrosesau dŵr naturiol.

Mae'r ymagwedd Draenio Gynaliadwy tuag at ddraenio dŵr wyneb sy'n cael ei rheoleiddio gan yr SAB yn cyfrannu at wireddu nodau lles o fewn fframwaith Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)  Yn benodol:

  • Cymru Gwydn - mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn gwella'r amgylchedd naturiol gan hyrwyddo bioamrywiaeth gydag systemau eco sy'n gweithredu'n iach.
  • Cymru Iachach - Mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn hyrwyddo mannau gwyrdd agored sy'n hybu a hwyluso lles corfforol a meddyliol.
  • Cymru Llewyrchus - mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn hyrwyddo cymdeithas arloesol â charbon isel sy'n ystyried risg llifogydd yn y dyfodol, yr amgylchedd ac adnoddau dŵr fel newid yn yr hinsawdd ac ymgripiad trefol.
  • Cymru sy'n Gyfrifol ar lefel fyd-eang - mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn hyrwyddo lles amgylcheddol Cymru trwy gyfuno gwasanaethau ecosystem i systemau draenio modern, er mwyn rheoli glawiad wrth y ffynhonnell ddŵr i leihau'r risg o lifogydd. 
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus - mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn ceisio hybu cymunedau deniadol, diogel sydd â chyswllt da a'i gilydd trwy ddefnyddio Cynllun Rheoli Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n sicrhau'r buddion orau ar gyfer amwynder a bioamrywiaeth.

Beth yw'r SAB?

Mae corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) yn swyddogaeth statudol a gafodd ei sefydlu gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yr Awdurdod Lleol. Rhaid i bob datblygiad gael cymeradwyaeth yr SAB cyn dechrau ar waith adeiladu gyda goblygiadau draenio.  Os bydd cais am ddraenio cynaliadwy yn cael ei gyflwyno, bydd yr SAB yn cymeradwyo neu'n gwrthod y cais ar sail ei gydymffurfiad â'r Safonau Cenedlaethol sy'n cynnwys:

  • 11 o egwyddorion sy'n sail i gynlluniau rheoli dŵr wyneb.
  • Mae yna 6 safon arall sydd wedi cael eu llunio i ddarparu meini prawf craidd y dylai pob system Draenio Gynaliadwy fodloni. Dylai'r rhain gynnwys trefniadau cynnal a chadw ar gyfer y systemau draenio yn ogystal â gwaith adeiladu.

Yn dilyn y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl derbyn cais dilys, rhaid i'r SAB wneud penderfyniad ar y cais ymhen 7 wythnos, neu 12 wythnos os yw'r cais yn destun Asesiad Effaith Amgylcheddol o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.  

 

Nodwch:     

      
  1. Rhaid rhoi cymeradwyaeth cyn dechrau unrhyw waith sydd â goblygiadau'n ymwneud â draenio.
  2.   
  3. Mae'r Broses yma'n ychwanegol at ac yn unol â gofynion Deddf Cynllunio Gwlad a Thref

 

Offerynnau Statudol   

Yn dilyn cychwyn Atodlen 3 FWMA 2010. Wedi hynny, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru yr Offerynnau Statudol ar 15 Hydref 2018. Mae'r Offerynnau cyhoeddedig yma'n cynnwys:

  1. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
  2. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) 2018
  3. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gorchymyn Cymeradwyo a Derbyn) 2018
  4. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apeliadau) 2018
  5. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) 2018

Sut i wneud cais

I wneud cais draenio cynaliadwy, ewch i Dudalen cais draenio cynaliadwy.

I wneud Cais Ymlaen Llaw i Gorff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy, ewch i  Dudalen Cais Ymlaen Llaw.