Skip to main content

Hyfforddiant Teithio'n Annibynnol

Nod Hyfforddiant Teithio yw helpu'r rheiny sydd angen cymorth ychwanegol wrth deithioar eu pennau eu hunain

Fel arfer, bydd Hyfforddiant Teithio yn cael ei ddarparu ar sail anghenion a gallu'r sawlsy'n cael ei hyfforddi, a hynny drwy waith wyneb i wyneb neu'n rhan o grˆwp.

Mae modd i Hyfforddiant Teithio ddarparu ystod eango gymorth drwy:

  • Darparu hyfforddiant tymor byr er mwyn i unigolion ddod yn gyfarwydd â sut y maetrafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio yn eu hardal leol, gan roi'r hyder iddyn nhw eidefnyddio, neu:
  • Darparu hyfforddiant wyneb i wyneb rheolaidd, dwys, mwy hirdymor fel bod modddysgu sgiliau diogelwch ar y ffyrdd ac ymwybyddiaeth bersonol pwysig.

Mae modd i Hyfforddiant Teithio helpu unigolion o bob oedran, gallu ac anghenion syddâ diffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o sut y mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.Mae'r rheiny sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn elwa'n fawr o dderbyn Hyfforddiant Teithio.

Fel arfer, mae'r unigolion yma yn teithio mewn tacsis sydd wedi eu trefnu iddyn nhw gany Cyngor hyd nes eu bod yn gadael yr ysgol. Gan fod dim profiad gyda nhw o baratoia threfnu teithiau fel hyn eu hunain, mae dod o hyd i addysg bellach, lleoliadau gwaith,hyfforddiant a phrofiadau bywyd eraill yn eithaf brawychus weithiau. Bydd nifer ohonynnhw yn anghyfarwydd â dod o hyd i'r wybodaeth, y cyngor neu hyd yn oed y sgiliauangenrheidiol er mwyn teithio'n annibynnol.

Mae Hyfforddiant Teithio hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer unigolion sy'n ei chael hi'n anoddmynd o le i le oherwydd salwch neu anabledd diweddar.

Gweld y wybodaeth bellach am Hyfforddiant Teithio'n Annibynnol