Skip to main content

Canllaw i Ardoll Seilwaith Cymunedol

Y Cefndir a'r Gofynion Statudol

Bu Rhestr Daliadau Ddrafft a Datganiad o Addasiadau a Newidiadau y Cyngor yn destun Archwiliad Cyhoeddus ar 27ainChwefror 2014, a daeth Adroddiad yr Archwilydd i law ar 4ydd Mehefin 2014 (os hoffech gael rhagor o wybodaeth, croeso i chi gyfeirio at dudalen o'r Archwiliad).

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi dilyn y gweithdrefnau a'r gofynion wedi'u pennu yn Neddf Cynllunio 2008 a Rheoliadau Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'u diwygiwyd) i gyflwyno ei Restr Daliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol (dyddiad gweithredu disgwyliedig 31ainRhagfyr 2014).

Mae'r Cyngor wedi gosod ei gyfraddau Ardoll Seilwaith Cymunedol drwy ddal y fantol yn wastad rhwng pa faint o Ardoll Seilwaith Cymunedol y gellir ei chodi i gyflenwi prosiectau seilwaith ac isadeiledd, ac effaith yr Ardoll Seilwaith Cymunedol ar hyfywedd ac ymarferoldeb cynlluniau datblygu newydd.

Datblygiad sy'n agored i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol

codir Ardoll Seilwaith Cymunedol ar ofod arwynebedd llawr mewnol gros (AMG) fesul pob metr sgwâr (m.sg.) o unrhyw adeilad newydd (sy'n cynnwys addasu a throsi adeiladau nad ydynt mewn defnydd), neu estyniad i adeilad presennol a chyfredol yn ardal weinyddol Rhondda Cynon Taf os oes ganddo o leiaf 100m² o arwynebedd llawr mewnol gros, neu fod y gwaith yn golygu, cynnwys, a gofyn am greu annedd hyd yn oed pan fo honno o dan 100 m² (gan gynnwys newidiadau defnydd), yn unol â Rhestr Daliadau'r Cyngor.

Croeso i chi gyfeirio at Nodyn Canllaw 1 os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth a am y mathau o ddatblygiad sy'n agored i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol, ac am y mathau o ddatblygiad nad ydynt yn talu'r ardoll.

Rhestr Daliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol

Mae Rhestr Daliadau'r Cyngor (dyddiad gweithredu disgwyliedig 31ainRhagfyr 2014) yn nodi pa fathau o ddatblygiad sy'n atebol i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol.  Mae'r Rhestr Daliadau yn cynnwys map i ddangos gwahanol barthau preswyl, ac yn nodi'r wardiau o fewn pob parth.

Bydd tâl yr Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) sydd i'w dalu gan ddatblygiad yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliad 40 o Reoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'i diwygiwyd). Fel sy'n cael eu nodi yn y rheoliadau yma, bydd taliadau ASC yn cael eu cysylltu â Mynegai Prisiau Tendr Cynhwysfawr y Gwasanaethau Gwybodaeth Costau Adeiladu (BCIS).

Yr ychwanegiad mynegeio ar gyfer 2024 yn Rhondda Cynon Taf yw: 
Parth Preswyl 2 £40 y metr sgwâr – mynegai £24.93 – cyfanswm sy'n daladwy fesul metr sgwâr £64.93
Parth Preswyl 3 £85 y metr sgwâr – mynegai £52.99 – cyfanswm sy'n daladwy fesul metr sgwâr £137.99
Parth Manwerthu £100 y metr sgwâr – mynegai £62.34 – cyfanswm sy'n daladwy fesul metr sgwâr £162.34

Nodwch ein bod wedi defnyddio'r ffigur uchod er mwyn cael cyfrifiad bras yn unig. Mae'r ffigur  wedi'i dalgrynnu i ddau le degol, fodd bynnag, mae'r gwir gyfrifiad yn seiliedig ar ffigur wyth lle degol. Bydd y cyfanswm net, felly, ychydig yn uwch na'r cyfanswm fe gewch wrth ddefnyddio'r ffigurau uchod.

Ai datblygiad hunan-adeiladu sydd gyda chi ac a yw wedi'i leoli ym mharth 2 neu 3 yn ardal Codi Tâl yr Ardoll Seilwaith Cymunedol? Os felly, efallai y bydd modd i chi hawlio eithriad hunan-adeiladu rhag talu yr ASC. Cyfeiriwch at Nodyn Cyfarwyddyd 5 yr ASC a / neu cysylltwch â'r Cyngor trwy e-bostio gwasanaethaucynllunio@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 281128

Sut caiff maint datblygiad ei chyfrifo?

Caiff maint datblygiad ei chyfrifo ar sail ei Harwynebedd Mewnol Gros (AMG).  Mae Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig wedi llunio arweiniad ar gyfer cyfrifo Arwynebedd Mewnol Gros. Mae hyn i gyd i'w gael yng ngyfrol y Sefydliad o’r enw Code of Measuring Practice (codir tâl am hyn).

Mae'r Arwynebedd Mewnol Gros yn cynnwys yr holl arwynebedd llawr a adeiledir o'r newydd o fewn waliau allanol adeilad, gan gynnwys coridorau, storfeydd, tai bach, lifftiau/esgynyddion, ayyb.  Mae'n cynnwys ystafelloedd atig y gellir eu defnyddio fel ystafelloedd, ond yn eithrio gofod yn y croglofft o fewn cyrraedd drwy ysgol a dynnir i lawr.  Yn ogystal â hyn, mae'n cynnwys garejys, heulfannau/ystafelloedd haul gwydr, a siediau, ac unrhyw adeiladau preswyl ategol wedi'u cynnwys mewn Cais Cynllunio.  Yn gyffredinol y farn yw fod unrhyw strwythur sydd â thri neu ragor o waliau, a tho hefyd, yn creu arwynebedd llawr mewnol, a thrwy hynny y bydd tâl amdano.

Polisi Rhandaliadau

Mae Polisi Rhandaliadau'r Cyngor yn darparu gogyfer â rhannu taliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol rhwng chwe mis a phedair blynedd, gan ddibynnu ar faint o Ardoll Seilwaith Cymunedol sydd i’w thalu.  Dyw'r Polisi Rhandaliadau ddim yn gymwys ond yn unig mewn achosion lle mae'r person neu bobl sy'n atebol i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol wedi cydymffurfio â phob un o'r holl Reoliadau a gofynion perthnasol.

Beth sy'n digwydd gyda cheisiadau cynllunio cyfredol ar y diwrnod y mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn dod i rym?

Ar y dyddiad y mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn dod i rym (31ainRhagfyr 2014), bydd raid adolygu unrhyw geisiadau cynllunio sydd heb eu penderfynu gydymffurfio â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, a chan hynny bydd raid i unrhyw gytundeb Adran 106 drafft, apêl cynllunio, neu werthusiad hyfywedd yn unol â'r system Ardoll Seilwaith Cymunedol gymeradwy.

Ardoll Seilwaith Cymunedol a Rhwymedigaethau

Nid nod Ardoll Seilwaith Cymunedol yw disodli rhwymedigaethau Adran 106.  Bydd yn cwmpasu llawer o'r materion sy'n derbyn mynd i'r afael ag ymdrin â nhw yn gyfredol drwy'r mecanwaith.  Serch hynny, fe fydd rhwymedigaethau Adran 106 yn dal mewn grym ar gyfer lliniaru penodol i safleoedd o effaith uniongyrchol datblygu a datblygiadau. Parhant i gael eu defnyddio i ddarparu tai fforddiadwy (sydd wedi'u hepgor yn benodol o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol).

Gweinyddu a Chasglu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol

Mae'r  Porth Cynllunio wedi creu sy'n cynnwys esboniad manwl o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, ynghyd â'r ffurflenni gweinyddu Ardoll Seilwaith Cymunedol a'r nodiadau canllaw perthnasol. Os ydych chi am wneud cais cynllunio am ddatblygiad, rydym ni'n argymell y dylech chi gyfeirio at y dudalen hon. Mae modd cyrchu ffurflenni'r Porth Cynllunio  sy'n ofynnol ac angenrheidiol i weinyddu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol  isod.

Croeso i chi edrych ar dudalen Proses y Cyngor os am weld y prosesau sy'n ymwneud â chodi a chasglu Ardoll Seilwaith Cymunedol

Gofyniad dilysu cais cynllunio - Ffurflen Cwestiynau Ychwanegol Ardoll Seilwaith Cymunedol

Er mwyn cyfrifo'r Atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol, bydd yn ofynnol i bob cais cynllunio newydd (ac eithrio ceisiadau amlinellol) ddarparu gwybodaeth am arwynebedd llawr yn rhan o'u cyflwyniadau cais.  Bydd raid i'r wybodaeth gynnwys y canlynol

i) y ddogfen Cwestiynau Ychwanegol Ardoll Seilwaith Cymunedol (a ddaw yn ofyniad dilysu ar ôl i'r Cyngor gymeradwyo'r Rhestr Daliadau) a and
ii) lle bo'n gymwys, gynlluniau llawr presennol (hyd yn oed os arfaethir chwalu).

Sut y caiff cronfeydd cyllid yr Ardoll Seilwaith Cymunedol eu gwario

Gan roi ystyriaeth i'r Cynllun Cyflawni Seilwaith, mae'r Cyngor wedi cyhoedd rhestr o dan Reoliad 123 o Reoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol. Ei nod yw nodi'r mathau o seilwaith, a rhai prosiectau penodol, efallai bydd Ardoll Seilwaith Cymunedol yn eu hariannu. O ganlyniad i lunio'r rhestr hon, does dim hawl ceisio cyfraniadau Adran 106 ar gyfer yr eitemau hynny. O ganlyniad i benderfyniad y Cabinet ar 17fed o Hydref 2019, a'r ymgynghoriad canlynol, mae'r Cyngor wedi mabwysiadu Rhestr 123 Reoleiddio wedi'i  diweddaru. Efallai y bydd rhestr Rheoliad 123 yn newid, ar ôl cael cymeradwyaeth y Cabinet a chyfnod ymgynghori, i gymryd i ystyriaeth newidiadau i amgylchiadau a blaenoriaethau.

Yn ychwanegol at hynny, mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i drosglwyddo 15% o'r refeniw Ardoll Seilwaith Cymunedol a godir yn ardal cyngor tref neu gyngor cymuned bob blwyddyn, i'r corff hwnnw i'w wario ar brosiectau seilwaith cymunedol.  Yn y rhannau hynny o Rondda Cynon Taf lle nad oes cyngor cymuned neu gyngor tref, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cadw'r derbynebau Ardoll Seilwaith Cymunedol, a bydd ganddo'r un pwerau gwario â chynghorau cymuned neu gynghorau tref mewn perthynas â'r 15% o'r derbynebau Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gyfer yr ardal honno. 

Mae'r Cyngor wedi paratoi nifer o Nodiadau Canllaw a Chwestiynau cyffredin i helpu datblygwyr o ran cyfrif a chymhwyso'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Lawrlwythiadau, a Chysylltau
Yn ychwanegol at ddogfennaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n hygyrch drwy'r cysylltau Gwe yn y ddogfen hon, mae canllawiau a chyngor swyddogol ar gael mewn mannau eraill. Dyma rai ohonynt:

 Hoffech chi gael gwybodaethychwanegol? Croeso i chi gysylltu â:

Tîm Gorfodaeth

2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH

Ffôn: 01443 281128