Skip to main content

Y Tadalen Ymgynghoriad Yr Ardoll Seilwaith Cymunedoll

Cefndir

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Awdurdod Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC).  Ers i'r taliadau ASC ddod i rym ar 31 Rhagfyr 2014, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi rhestr Rheoliad 123 ar ei wefan.

Mae Rheoliad 123 yn rhestr sy'n cynnwys prosiectau seilwaith sydd wedi'u hariannu'n llawn neu'n rhannol gan yr ASC.

Newidiadau Arfaethedig

O ganlyniad i benderfyniad a gafodd ei wneud gan y Cabinet ar 23 Hydref 2023, mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad 28 diwrnod rhwng 30 Hydref a 26 Tachwedd 2023 mewn perthynas â rhai newidiadau i Restr Rheoliad 123 y Cyngor.

Mae'r newidiadau arfaethedig i restr Rheoliad 123 y Cyngor wedi'u nodi yn y tabl canlyno:

Proposed Changes
Angen o ran SeilwaithNewid Arfaethedig
Rheswm dros y newid
Prosiectau Addysg:
  
Darpariaeth addysg newydd/ychwanegol ar dir y Mwyndy / Tonysguboriau Aros fel y mae Dd/B
Darpariaeth addysg newydd/ychwanegol ar dir Fferm Trane, Tonyrefail Aros fel y mae Dd/B
Darpariaeth addysg newydd/ychwanegol yn Ffynnon Taf I'w dileu Mae seilwaith wedi'i ariannu'n rhannol gan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.
Darpariaeth addysg newydd/ychwanegol ar safle hen waith glo brig i'r gogledd o'r A473, Llanilid Aros fel y mae Dd/B
Prosiectau Trafnidiaeth:    
Darparu ffordd liniaru’r A473/A4119 o Donysguboriau i Ynysmaerdy Aros fel y mae Dd/B
Cylchfan yr A4119 / A4093, Tonyrefail - cyffordd â signalau a gwelliannau teithio llesol Aros fel y mae Dd/B
Ffordd osgoi Llanharan Diwygio'r Disgrifiad i:Ffordd Gyswllt Llanharan Dd/B
Mynedfa Cwm Cynon (Yr A465) Diwygio'r Disgrifiad i:Porth Gogledd Cwm Cynon Dd/B
Creu ffordd ddeuol ar ffordd gyswllt De Coed-elái – gwella'r A4119 rhwng Tonysguboriau a Choed-elái i safon ffordd ddeuol Aros fel y mae Dd/B
Yr A4119 Castell-y-mynach – cyffordd â signalau Aros fel y mae Dd/B
Llwybr Cymuned Llanharan - Adeiladu llwybrau teithio llesol newydd Aros fel y mae Dd/B
Ystad Ddiwydiannol Trefforest - Adeiladu llwybrau teithio llesol newydd Aros fel y mae Dd/B
Ystad Ddiwydiannol Trefforest - Gorsaf reilffordd newydd Aros fel y mae Dd/B
Aberdâr i Hirwaun - ehangu gwasanaethau i deithwyr ar y rheilffordd Aros fel y mae

Dd/B

Yr A473 rhwng cylchfan Ton-teg a chylchfan Glan-bad  Aros fel y mae

Dd/B

Manylion yr Ymgynghoriad

Gellir cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad hwn drwy'r post neu e-bost rhwng 30 Hydref a 26 Tachwedd 2023.

Drwy'r post:
Tîm Gorfodaeth
Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
CF37 1DU

Anfonwch atebion drwy e-bost at:  asc@rctcbc.gov.uk

Diogelu Data

Bydd staff y Cyngor yn gweld manylion unrhyw ymateb sy'n cael ei gyflwyno ac sy'n ymwneud â'r materion sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad yma. Mae'n bosib y bydd staff y Cyngor yn defnyddio'r ymateb er mwyn helpu gyda gwaith paratoi ymgynghoriadau yn y dyfodol. Mae'n bosib y bydd y Cyngor yn penderfynu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yma. Efallai y byddwn ni hefyd yn cyhoeddi sylwadau yn llawn. Fel arfer, rydyn ni'n cyhoeddi enw'r person ac/neu'r sefydliad a anfonodd y sylwadau. Mae hyn yn ein helpu ni i ddangos ein bod wedi cynnal yr ymgynghoriad yn y modd cywir. Os dydych chi ddim eisiau i ni gyhoeddi'ch enw, nodwch hyn yn ysgrifenedig wrth gyflwyno'ch sylwadau. Mae'n bosib y bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yma'n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar gael i'r cyhoedd ar ffurf dogfen gyhoeddus yn Swyddfeydd y Cyngor. 

Os oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig i Restr Rheoliad 123, ffoniwch Leanne Lott ar 01443 281128.