Skip to main content

Bioamrywiaeth yn RhCT

Mae Rhondda Cynon Taf yng nghanol y Cymoedd, ac wrth wraidd y cyfoeth o fioamrywiaeth yma. Dyma le mae tirwedd a bioamrywiaeth yn dod ynghyd ac mae sylwedd a dyfnder bioamrywiaeth i'w gweld yn y golygfeydd. Dyma dirwedd fioamrywiol syfrdanol a deinamig sy'n rhan annatod o'r ymdeimlad unigryw o leoliad a pherthyn.

Yn 2000, sefydlodd grŵp o unigolion a oedd yn frwd dros fywyd gwyllt bartneriaeth gyda'r Awdurdod Lleol i ddatblygu cynllun 'Gweithredu Dros Natur', gan nodi'r blaenoriaethau ar gyfer deall a diogelu ein treftadaeth naturiol. Mae'r bartneriaeth yn gweithio ar y cyd i roi'r camau gweithredu ar waith a diweddaru'r cynllun. 

Mae ein hymrwymiad i hyrwyddo ac annog bioamrywiaeth ledled y Fwrdeistref Sirol i'w weld yn y ffordd y caiff rhai o'n lleiniau glas, ein parciau a'n safleoedd cefn gwlad eu rheoli. Er bod rhai safleoedd yn cael eu rheoli at ddibenion bioamrywiaeth a bod modd eu mwynhau o bell (er enghraifft, ein lleiniau glas lle does dim mynediad i'r cyhoedd), mae yna ardaloedd eraill y tu mewn i ffiniau ein safleoedd cefn gwlad a'n prif barciau yno i chi ddod i'w mwynhau. I weld yr ardal fioamrywiaeth agosaf atoch chi, cliciwch yma

Os hoffech chi fod yn rhan o rai o'r mentrau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd, beth am gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth. Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein Hachlysuron, mwynhau ymweld â Pharc neu Safle Cefn Gwlad, Rhoi gwybod am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ddarllen Cylchlythyr y Cofnodwyr