Skip to main content

Polisïau Adnoddau Dynol

Y Ddyletswydd o ran Bioamrywiaeth

Mae cynllun Gweithredu Dros Natur yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar fioamrywiaeth ledled Rhondda Cynon Taf ar gyfer ystod eang o bartneriaid. Mae gyda'r Awdurdod gyfrifoldebau penodol o ran bioamrywiaeth. Maen nhw i'w gweld o dan Adran 6 (6) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yr enw ar hyn yw'r 'Ddyletswydd o ran Bioamrywiaeth'.

 Mae ein dogfen Dyletswydd o ran Bioamrywiaeth yn amlinellu cyfrifoldebau a chynlluniau Rhondda Cynon Taf ynghylch rheoli bioamrywiaeth ledled y Fwrdeistref Sirol. Un o gamau gweithredu'r ddyletswydd yw rheoli glaswelltir ar gyfer bywyd gwyllt.

Yn 2017, cafodd adroddiad drafft ei baratoi ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn nodi'r cynigion ar gyfer gweithredu'r Ddyletswydd o ran Bioamrywiaeth newydd. Cafodd y cynigion eu derbyn a chafodd taenlen Gweithredu Dyletswydd ei llunio. Cafodd adroddiad ar hynt y gwaith ei osod ger bron y Cabinet a'r Grŵp Craffu ar Newid yn yr Hinsawdd ym mis Hydref 2019.

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Rhondda Cynon Taf

Mae 'Gweithredu Dros Natur' (Action for Nature) yn gynllun i helpu natur i ffynnu yn Rhondda Cynon Taf. Mae gyda ni fywyd gwyllt anhygoel ar ein stepen drws. Darllenwch am Daith Bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf i ddysgu rhagor.

Os hoffech chi helpu bywyd gwyllt, ymunwch â Grŵp Llywio'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol neu un o'r nifer fawr o sefydliadau bywyd gwyllt. Hoffech chi ragor o fanylion? Anfonwch e-bost at parciaucefngwlad@rctcbc.gov.uk

Nodwch: Mae'r 'Cynllun Gweithredu dros Natur' yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Os hoffech gyfrannu at yr adolygiad, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio parciaucefngwlad@rctcbc.gov.uk

Gweld Rhan Un o gynllun 'Gweithredu Dros Natur'. 

Mae cynlluniau gweithredu manwl ar gynefinoedd a rhywogaethau ar gael drwy glicio yma:- Rhan Dau

Caiff y Cynllun Gweithredu ei fonitro gan y Grŵp Llywio. Dros y blynyddoedd nesaf, byddan nhw'n diweddaru'r Cynllun Gweithredu er mwyn adlewyrchu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. 

Polisi Trin Lleiniau Glas

Rydyn ni'n ffodus iawn yn Rhondda Cynon Taf fod gyda ni ddolydd a chorsydd sy'n llawn blodau gwyllt o hyd. Yn y rhan fwyaf o Brydain, mae'r cynefinoedd prin yma oll wedi diflannu. Rydyn ni hefyd yn lwcus iawn bod llawer o'n lleiniau glas a'n mannau agored yn cefnogi'r un blodau gwyllt. Pan dydyn ni ddim yn torri'r gwair ac mae'n cael cyfle i dyfu, mae modd i ni weld blodau hardd y lleiniau, sy'n darparu cynefin pwysig i wenyn, pili-palaod, gwyfynod a phryfed hofran.

Ar ôl i'r blodau a'r gwair osod a gollwng eu hadau, bydd yr ardal yn cael ei thorri a'r 'gwellt' (y toriadau) yn cael ei gasglu. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn yr hydref, gan ddefnyddio peiriant 'torri a chasglu' arbennig sy'n casglu'r toriadau. Wedyn, maen nhw'n cael eu defnyddio i greu 'pentyrrau cynefin' i fod yn gartrefi i nadroedd defaid ac ymlusgiaid eraill sydd hefyd dan fygythiad ledled y Deyrnas Unedig. 

Mae cael gwared ar y toriadau yn gam pwysig iawn gan ei fod yn atal rhagor o faetholion rhag cael eu hailgylchu o fewn y pridd. Os yw toriadau'n cael eu golchi i'r pridd, maen nhw'n torri i lawr ac yn ei ffrwythloni. Mae hyn yn annog mwy o laswellt i dyfu ac mae'r pridd yn mynd yn rhy ffrwythlon i flodau gwyllt ffynnu. Drwy gael gwared ar y toriadau, bydd yr ardal yn fwy ffrwythlon o ran blodau o flwyddyn i flwyddyn a bydd yn dod yn gynefin hanfodol i bryfed ac anifeiliaid eraill i fyw, bwydo a bridio.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar ein Polisi Trin Lleiniau Glas. Gallwch hefyd ddarllen yr Adroddiad ar Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn sy'n tynnu sylw at ganlyniadau arolwg o rai o'n lleiniau ymyl ffordd, neu ddarllen ein tudalen Amserlenni Torri Gwair ar gyfer gwair sy'n cael ei drin gan y Cyngor. 

Adar sy'n nythu

Mae adar sy'n nythu yn cael eu diogelu gan y gyfraith. Mae'r Cyngor yn cynnig cyngor i gontractwyr a staff