Skip to main content

Gweithredu dros Natur - Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Rhondda Cynon Taf

'Gweithredu dros Natur' yw'r cynllun gweithredu adfer byd natur newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf.  Mae modd gweld y drafft ar gyfer ymgynghoriad hyd at 11 Mawrth 2022  a hoffem ni glywed eich barn chi.

Mae 'Gweithredu dros Natur' yn canolbwyntio ar y camau gweithredu sydd eu hangen i helpu bywyd gwyllt i ffynnu yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'n cynnwys llawer iawn o wybodaeth am y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n gwneud RhCT mor arbennig.

  1. 'Sut galla i helpu?' ac mae ganddo rai camau gweithredu sy'n cael eu hawgrymu ar gyfer amrywiaeth o grwpiau o bobl.
  2. Mae camau gweithredu cyffredinol sy’n berthnasol i bob cynefin a rhywogaeth, gweithredoedd cynefin ar gyfer glaswelltiroedd, dwr croyw, coetiroedd, y cynefinoedd yn y dyffrynnoedd  ac ardaloedd trefol.  
  3. Mae yna hefyd adran ar rywogaethau.

Cafodd y drafft yma ei baratoi gan Bartneriaeth Natur Leol RhCT ac mae wedi cynnwys llawer o naturiaethwyr lleol, sefydliadau cymunedol a grwpiau cadwraeth gwirfoddol yn ogystal â staff o'r Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru.    Bydd y wefan yn diweddaru'r adolygiad gwreiddiol (2000) ac adolygiad 2008 'Gweithredu dros Natur', sydd ar gael ar wefan y Cyngor.

Os oes gyda chi unrhyw sylwadau ar y drafft 'Gweithredu dros Natur', anfonwch e-bost at Rose Revera r.revera@npt.gov.uk erbyn 11 Mawrth 2022.