Skip to main content

Ymholiadau Tir ac Eiddo

Mae carfan Eiddo'r Cyngor yn ymdrin ag ystod eang o faterion sy'n ymwneud ag eiddo megis:
  • Rheoli Asedau
  • Landlordiaid a thenantiaid
  • Caffael a Gwaredu ar Dir ac Adeiladau (Cyfalaf a Phrydles)
  • Cynghori datblygiad, dichonoldeb a rheoli prosiectau
  • Rheoli system gofnodi'r tir
  • Trwyddedau pori
  • Trefniadau Garej a Gardd
  • Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Hygyrchedd Corfforol)
  • Iawndal a phryniant gorfodol
  • Pridiannau’r tir a chofrestru tir comin
  • Deddf Cofrestru Tir Comin
  • Adolygiadau'r Tir
  • Swyddfeydd

Eiddo a thir y Cyngor

Mae'r Ganolfan Gwybodaeth Eiddo yn cadw cofnod o holl dir y Cyngor yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. 

Mae sawl achos o bartïon yn ymledu ar dir y Cyngor heb ganiatâd. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich sylwadau. Bydd unrhyw bryderon neu sylwadau yn gyfrinachol.

Eiddo a thir â pherchnogaeth breifat.

Dydy Eiddo'r Cyngor ddim yn cadw cofnodion yn ymwneud â thir ac eiddo sydd â pherchnogaeth breifat. Bwriwch olwg ar y Gofrestrfa Dir i Gymru i weld yr wybodaeth yma: Chwilio am wybodaeth tir ac eiddo - GOV.UK (www.gov.uk).

Sut ydw i'n prynu, prydlesu neu rentu eiddo neu ddarn o dir sydd o ddiddordeb i mi?

Gallwch wneud cais drwy lenwi'r cais PDF sydd wedi'i gysylltu isod a naill ai drwy e-bost neu ei bostio atom.
Gallwch wneud cais drwy lenwi'r cais PDF sydd wedi'i gysylltu isod a naill ai drwy e-bost neu ei bostio atom.

Nodwch fod modd i'r broses ymgeisio gymryd hyd at 12 wythnos er mwyn dod i benderfyniad. Caiff pob cais ei ystyried yn unigol.

Os ydych chi'n llwyddiannus, deallwch fod modd i'r tir neu'r eiddo dan sylw gael ei hysbysebu ar y farchnad agored. Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os mai dyma fydd yn digwydd.

Trwyddedau Pori

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn berchen ar diroedd pori sy'n cael eu tendro bob 5 mlynedd. Bydd y gyfres nesaf o dendrau ar gael i gystadlu amdanyn nhw yn 2028. Rydyn ni'n hysbysebu'r holl diroedd ar ein gwefan: Rhestr o dir ac eiddo sydd ar gael.

Cwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gyfrifol am ffens/wal ffin fy nhir/eiddo?

Os yw'r eiddo dan berchnogaeth breifat, gwiriwch eich gweithredoedd eiddo neu fynnu cyngor gan gyfreithiwr.

Oes gyda chi unrhyw garejis ar gael i'w rhentu?

Mae'r Cyngor yn ymdrin â rhentu tir y Cyngor at ddibenion cael garej. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor yn rhentu tir i unigolion er mwyn iddyn nhw adeiladu garej arno.

Os ydych chi'n awyddus i rentu bloc o garejis sydd eisoes yn bodoli, cysylltwch â Trivallis - mae'r cwmni wedi perchen ar garejis y Cyngor ers 2007. Mae'n bosibl y byddan nhw'n eich ffonio chi o un o'r rhifau ffôn yma: 0300 003 0888 neu 0845 301 4141.

Ydy'r Cyngor yn gwybod pwy sy'n berchen ar yr holl dir yn y Fwrdeistref Sirol?

Nac ydy. Dim ond gwybodaeth am dir mae'r Cyngor yn berchen arno sydd ganddo.  Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â pherchnogaeth tir sydd ddim yn eiddo i'r Cyngor, cysylltwch â Chofrestrfa Dir Ei Fawrhydi.

Ydy'r Cyngor yn berchen ar bob ffordd/lôn yn y Fwrdeistref?

Nac ydy. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â statws ffyrdd, cysylltwch â: Priffyrdd.

Oes hawl gen i docio coed sy'n hongiad dros fy eiddo?

I weld gwybodaeth gyffredinol am goed, bwriwch olwg ar y wefan Coed - Canllaw Cyffredinol.

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch chi, e-bostiwch coed@rctcbc.gov.uk

Sut ydw i'n rhoi gwybod am achosion o dipio'n anghyfreithlon?

Rhowch wybod yma: Rhoi Adroddiad | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Ydy'r Cyngor yn berchen ar unrhyw eiddo preswyl?

Cafodd holl eiddo preswyl y Cyngor ei drosglwyddo i Gartrefi RhCT, sydd bellach yn cael ei alw'n Trivallis, ym mis Rhagfyr 2007. Nodwch: Mae Trivallis yn sefydliad ar wahân i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Cyfeiriwch eich ymholiadau yn ymwneud ag eiddo preswyl ag oedd yn arfer bod yn dai Cyngor i'ch landlord.

Sut ydw i'n rhoi gwybod am newid i enw a rhif eiddo?

Anfonwch bob ymholiad yn ymwneud ag enwi a rhifo i enwirhifo@rctcbc.gov.uk.

Cysylltu

Gallwch holi perchnogaeth tir ac eiddo drwy e-bostio neu yn ysgrifenedig;

E-bost: PropertyInformation@rhondda-cynon-taff.gov.uk.

Yn ysgrifenedig at;

Eiddo'r Cyngor

Tŷ Trevithick

Abercynon

Aberpennar

CF45 4UQ

Ffôn: 01443 281189