Skip to main content

Y Gwasanaeth Cynhwysiant – Amdanon ni

Mae'n bolisi yr Awdurdod Lleol fod pob plentyn, cyn belled ag y bo modd yn unol â thelerau Deddf Addysg 1996 (wedi'i diwygio Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)) yn cael eu haddysgu mewn ysgol prif ffrwd gyda chymorth wedi'i ddarparu pan fo angen. Yn ogystal, rydyn ni'n credu y dylai ein plant a'n pobl ifanc, cyn belled ag y bo modd, gael eu haddysgu ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) Cymru 2002/Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru 2021 yn rhoi cyngor ymarferol i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'u cyfrifoldebau. Mae arweiniad pellach ar gael yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant yn Rhondda Cynon Taf yn rhan allweddol o drefniadau'r Cyngor i gefnogi disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan gynnwys anghenion addysgol arbennig. Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Seicoleg Addysg
  • Gwasanaeth Cynnal Dysgu (gan gynnwys Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad)

Mae'r gwasanaethau yma wedi ymrwymo i'r amcanion craidd canlynol:

  • Cyfleoedd Cyfartal i bob plentyn
  • Cynhwysiant Cymdeithasol ac Addysgol
  • Gwella ysgolion
  • Gweithio mewn partneriaeth ac ar y cyd
  • Cyfathrebu Effeithiol

Mae'r gwasanaeth yn dilyn canllawiau Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) Cymru 2002/Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru 2021. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag eraill. Mae anghenion byr dymor a hir dymor pob plentyn wrth wraidd gwaith pob aelod o staff. Mae diogelu plant, pobl ifainc ac oedolion sy'n agored i niwed yn sail i'n gwaith.

Mae'r cyfle i gael mynediad at addysg yn rhan allweddol o ddyfodol pob plentyn a pherson ifanc. Mynychu'r ysgol leol gyda'i ffrindiau yw'r opsiwn gorau, ond rhaid i ni gydnabod nad yw hyn yn bosib, nac er lles pennaf rhai dysgwyr; bob amser.

Mae cynhwysiant yn broses ble mae'r rhwystrau sy'n bodoli ac sy'n atal mynediad at ddysgu a chymryd rhan yn cael eu herydu. Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, ar y cyd â gwasanaethau eraill yn gweithio tuag at gyflawni cyfleoedd cyfatal a sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei ddathlu.

Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau statudol a gwirfoddol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cyfle i gyflawni'i botensial mewn amgylchedd cefnogol sy'n paratoi'r unigolyn ar gyfer bywyd fel oedolyn a'n eu galluogi i:

  • fod yn iach
  • bod yn ddiogel
  • mwynhau bywyd a llwyddo
  • gwneud cyfraniad cadarnhaol
  • cyflawni llesiant economaidd

Ein prif swyddogaeth ni yw darparu cymorth i blant a phobl ifainc sydd ag amrywiaeth o anawsterau gan gynnwys namau synhwyraidd, anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Rydyn ni hefyd yn darparu cymorth i blant a phobl ifainc sydd ag anwylderau iaith a lleferydd a chyfathrebu gan gynnwys anhwylder y sbectrwm awtistig, anableddau corfforol a meddygol a chymhlethion cyffredinol, ac anawsterau dysgu penodol.

Mae'r Gwasanaethu Mynediad a Chynhwysiant yn cydnabod:

  • Bydd y Gwasanaeth yn cael ei gynllunio ar sail aml-asiantaeth er mwyn darparu cymorth o ansawdd uchel, di-dor ac effeithlon i blant, pobl ifainc a'u teuluoedd ac ysgolion.
  • Rhaid i ni oresgyn y rhwystrau sy'n bodoli sy'n atal gweithio mewn partneriaeth drwy gyfathrebu'n  effeithiol ac ymgysylltu'n fwriadol ar bob lefel.
  • Rhaid i bolisïau a gweithdrefnau, sy'n golygu bod anghenion addysgol arbennig disgyblion yn cael eu cydnabod ac yn cael eu bodloni, bod yn gadarn ac yn dryloyw.
  • Dylai Anghenion Addysgol Arbennig plant a phobl ifainc Rhondda Cynon Taf cael eu bodloni'n lleol ble'n bosib.
  • Bydd rhaid ailstrwythuro carfanau a gweithredu newidiadau i arferion gwaith, gan gynnwys technoleg, er mwyn gwneud yn fawr o effeithlonrwydd.
  • Mae dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd/cynhalwyr yn haeddu cyfleoedd cyfartal.

Mae'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cwmpasu plant a phobl ifainc sydd ag anghenion dysgu sy'n fwy na'r mwyafrif o'u cyfoedion ac nid y rheiny sy'n cael eu cydnabod fel unigolyn sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) fel y diffiniwyd yn Neddf Addysg 1996 a Chod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) Cymru 2002/Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru 2021.

Mae'n bosib bod yna nifer o grŵpiau o ddisgyblion y mae modd eu cydnabod fel pobl sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac sydd angen sylw.

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion fel arfer yn bodloni anghenion eu disgyblion sydd ag amrywiaeth o anghenion addysgol. Mae'r ysgolion yma'n trefnu amgylchedd yr ysgol er mwyn gwneud gwneud y gorau posibl o'u potensial. Y mwyaf hyblyg ac ymatebol y mae'r ysgolion, y mwyaf tebygol y mae disgyblion i wneud cynnydd. Bydd angen sefydlu camau gweithredu fel bod modd rhoi ymyrraethau mwy grymus ar waith er mwyn ateb y galw. Mae hyn yn adlewyrchu canllawiau Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) Cymru/Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru 2021 drwy fabwysiadu ymateb graddedig. Pan fydd disgybl angen cymorth ychwanegol, bydd y cymorth yma, gan amlaf, ar gael o fewn adnoddau'r dosbarth a bydd modd i'r athro dosbarth/pwnc rheoli'r cymorth yma. Hyd yn oed os yw disgybl angen cymorth ychwanegol tu allan i'r dosbarth, dylai hwn fod yng nghyd-destun cwricwlwm cynhwysol. Mae cynnydd pob plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei fonitro’n fanwl a'i adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn.