Skip to main content

Gwasanaethau Mynediad a Chynhwysiant – Telerau ac Amodau

Mae’r telerau a’r amodau canlynol yn berthnasol i’r amserlen hyfforddi sydd wedi'i ddarparu ar gyfer y flwyddyn academaidd yma. Mae llenwi ffurflen i gadw lle ar y cyrsiau yma, yn gadarnhad eich bod chi'n derbyn yr amodau.

Telerau talu 

Mae cost pob cwrs wedi'i nodi gerllaw’r cwrs perthnasol. Mae’r ffi i gadw lle yn cynnwys unrhyw gostau llogi ystafell, lluniaeth a gweinyddol.

**Cofiwch nad oes modd ad-dalu unrhyw ffioedd cadw lle unwaith mae eich lle ar y cwrs wedi’i gadarnhau. Bydd ysgolion â llyfr siec yn derbyn anfoneb allanol gan Rondda Cynon Taf. Bydd ysgolion heb lyfr siec yn gweld bod didyniad wedi’i wneud drwy drosglwyddiad gan yr Adran Addysg

Cyllid. Sicrhewch eich bod chi'n nodi'n glir pa ran o'r cyllid yr hoffech chi'i defnyddio i dalu am yr hyfforddiant**

Cadarnhau’r archeb

Mae modd cadw lle ar-lein trwy lenwi'r ffurflen archebu berthnasol ar y wefan.

Bydd y lleoedd wedi'u dyrannu yn cael eu cadarnhau trwy e-bost. Byddwn ni'n anfon y cadarnhad i'r cyfeiriad e-bost wedi'i nodi ar y ffurflen cadw lle.

Canslo neu Ddim yn Bresennol

Os nad oes modd i unigolion fod yn bresennol yn y cwrs, a fyddech cystal â rhoi gwybod i'r Gwasanaeth ar 01443 744333 cyn gynted â phosibl. Fydd ffioedd y cwrs ddim yn cael eu had-dalu. Serch hynny, caiff ysgolion anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol.

Mae rhaid cadarnhau eich bod yn canslo eich lle ar y cwrs mewn e-bost. 

Canslo cyrsiau

Mae gan y Gwasanaeth yr hawl i ganslo cwrs hyfforddi neu newid yr hwylusydd. Os caiff cwrs ei ganslo, bydd y gwasanaeth yn rhoi gwybod i gynrychiolwyr gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y ffurflen cadw lle.

Trosglwyddo

Does dim modd trosglwyddo ffioedd cadw lle i gwrs arall dan unrhyw amgylchiadau.

Gwerthuso

Mae gofyn bod pob un sydd wedi bod ar gwrs hyfforddi yn llenwi ffurflen werthuso. Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn helpu i wella’r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig yn y dyfodol, a’r modd y caiff ei gyflwyno. Caiff Ffurflen Werthuso Wedi'r Hyfforddiant ei hanfon at rai unigolion yn ystod y tymor canlynol er mwyn mesur effaith yr hyfforddiant cawson nhw.

Am ragor o wybodaeth am y rhestr lawn o gyrsiau a sesiynau sydd ar gael, ffoniwch ddesg hyfforddiant y Gwasanaeth Adran Mynediad a Chynhwysiant ar 01443 744333 neu e-bostio CynaMyn@rctcbc.gov.uk