Skip to main content

Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Dysgu Ychwanegol

Rôl y Gwasanaeth:

Gan weithio'n agos â'r meysydd gwasanaeth eraill, mae'r Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Dysgu Ychwanegolyn darparu gwasanaeth gweinyddol effeithlon ac effeithiol ar gyfer ysgolion, rhieni, disgyblion a gweithwyr proffesiynol eraill mewn perthynas â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

Mae'r gwasanaeth wedi'i drefnu ar sail ysgol/cymdogaeth ac mae gan bob ysgol swyddog sydd wedi'i enwi.

Mae'r Gwasanaethau Allweddol sy'n cael eu cynnig yn cynnwys:

  • Cynrychioli'r Awdurdod mewn cyfarfodydd ag asiantaethau allanol.
  • Paratoi data ystadegol sy'n ofynnol gan asiantaethau mewnol acallanol.
  • Cysylltu ag ysgolion y tu mewn a'r tu allan i'r sir ynghylch erbyniadau newydd.
  • Cysylltu ag awdurdodau lleol eraill o ran adennill costau.
  • Cynnal a datblygu cronfa ddata ganolog ac adnodd meddalwedd ar gyfer dysgwyr ag ADY.
  • Cydlynu'r  gwaith gweinyddu sy'n gysylltiedig â'r broses asesu statudol, gan sicrhau ei bod yn cwrdd â'r amserlenni statudol.
  • Gweinyddu'r broses adolygu flynyddol ar gyfer yr holl ddisgyblion sydd â datganiadau neu nodiadau yn lle datganiad.
  • Gweithredu fel prif bwynt cyswllt i rieni, ysgolion a gweithwyr  proffesiynol eraill ynglŷn â disgyblion sy'n cael eu hasesu neu eu hadolygu'n statudol.
  • Darparu gwybodaeth am Wasanaethau Partneriaeth Rhieni.
  • Gweinyddu pob Panel lleoliad, trwy atgyfeiriadau o feysydd gwasanaeth eraill.
  • Cysylltu â'r Uned Drafnidiaeth Integredig ynghylch polisi AAA o'r cartref i'r ysgol a sut i'w weithredu.
  • Cysylltu â Chyllid Addysg ynghylch cyllido darpariaeth arbenigol yn Rhondda Cynon Taf a lleoliadau y tu allan i'r sir.
  • Cyfathrebu a gweithredu pob penderfyniad panel i rieni, ysgolion a phob gweithiwr proffesiynol.
  • Cydlynu trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i ddarpariaeth arbenigol, gan gynnwys cludiant o'r cartref i'r ysgol, os yw'n briodol.
  • Presenoldeb mewn adolygiadau blynyddol statudol, fel y bo'n briodol.