Skip to main content

Cynllun Cymorth i Brynu Offeryn

Mae modd i ddisgyblion sy'n cael gwersi offeryn yn yr ysgol arbed llawer o arian os yw'n prynu offeryn newydd drwy 'Gynllun Cymorth i Brynu Offeryn'. Rhaid bodloni’r meini prawf canlynol.

Sut mae'r cynllun yn gweithio

  1. Mae’r rhiant/disgybl yn dewis offeryn
  2. Mae’r rhiant yn talu’r swm heb TAW i’r ysgol
  3. Mae’r ysgol yn gwneud archeb swyddogol
  4. Mae’r ysgol yn derbyn anfoneb ar gyfer y swm llawn gan gynnwys TAW
  5. Mae’r ysgol yn hawlio’r TAW yn ôl yn y ffordd arferol.
  6. Rhaid i'r offeryn gael ei roi i'r rhiant/disgybl yn yr ysgol

Rheolau a diffiniadau Cynllun Cymorth i Brynu Offeryn

Er mwyn manteisio ar y cynllun yma, rhaid bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid prynu’r offeryn drwy’r ysgol neu'r awdurdod lleol ac mae rhaid i’r offeryn gael ei drosglwyddo i'r disgybl neu'i warchodwr ar safle’r ysgol
  • Rhaid i’r disgybl fod yn derbyn addysg y wladwriaeth
  • Rhaid defnyddio'r offeryn yn rhan o wersi cerdd y disgybl
  • Rhaid i’r offeryn fod yn addas i anghenion y disgybl
  • Rhaid i gost yr offeryn fod ar yr un lefel neu’n is na chostau arferol yr ysgol, gan gynnwys TAW

I bwrpas Cynllun Cymorth i Brynu Offeryn, mae'r diffiniadau isod yn gymwys:

  • Ystyr 'addysg y wladwriaeth' yw:
    • Gwersi cerdd mewn ysgol yn yr awdurdod lleol
    • Gwersi cerdd mewn academi
    • Gwersi cerdd yng ngherddorfa'r ysgol neu yng ngherddorfa'r awdurdod lleol.
    • Gwersi cerdd mewn canolfan gerdd leol
  • Mae offerynnau cerdd yn cynnwys darnau newydd
Gwasanaeth Cerdd RhCT

Canolfan Menter y Cymoedd

Parc Hen Lofa'r Navigation,

Aberpennar

CF45 4SN

Ffôn: 01443 744017 
Tudalennau Perthnasol