Skip to main content

Dirwyon am beidio â mynd i'r ysgol

Mae Hysbysiad Cosb Benodedig Mynychu'r Ysgol (FPN) yn ddirwy y gallwn ni ei defnyddio fel dewis amgen i erlyn rhieni / gwarcheidwaid / cynhalwyr (gofalwyr) sydd ddim yn sicrhau bod eu plentyn yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd. 

Mae Hysbysiad Cosb Benodedig Mynychu'r Ysgol yn £60 os caiff ei dalu o fewn 28 diwrnod o dderbyn yr hysbysiad, ac mae’n codi i £120 os caiff ei dalu ar ôl 28 diwrnod ond cyn pen 42 diwrnod o dderbyn yr hysbysiad.  Os na chaiff y ddirwy ei thalu erbyn hynny, mae rhaid i ni naill ai:

Rhesymau dros gyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig Mynychu'r Ysgol

Rydyn ni'n cyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig Mynychu'r Ysgol am y rhesymau canlynol:

  1. Lle mae lleiafswm o 10 sesiwn heb awdurdod (5 diwrnod ysgol) yn y tymor presennol (nid oes angen i’r rhain fod yn olynol). Gallai hyn gynnwys disgyblion sy’n cyrraedd yn barhaus ar ôl i’r cyfnod cofrestru ddod i ben; (Argymhellir cadw cofrestrau ar agor am dri deg munud);
  2. Pan fo rhieni/cynhalwyr yn methu ag ymgysylltu ag ysgolion i wella presenoldeb eu plentyn;
  3. Pan fo disgybl yn chwarae triwant yn rheolaidd yn ystod oriau ysgol (gall yr Heddlu ofyn am hysbysiad cosb am y drosedd hon);
  4. Cymryd amser o’r ysgol i fynd ar wyliau heb ganiatâd yr ysgol (gweler canllawiau am wyliau yn ystod tymor ysgol).

Os yw ysgol yn gofyn i ni gyhoeddi hysbysiad cosb benodedig, byddwn ni'n adolygu'r wybodaeth a byddwn ni'n cyhoeddi cosb dim ond os ydy hi'n briodol i wneud hynny.

Ar gyfer rhesymau 1 i 4, caiff rhieni 15 diwrnod i sicrhau bod eu plentyn yn mynychu'r ysgol, ac ar yr amod na fydd rhagor o absenoldebau yn cael eu cofnodi yn ystod y cyfnod yna, fydd hysbysiad cosb benodedig ddim yn cael ei roi. Serch hynny, os caiff absenoldeb heb ganiatâd ei gofnodi yn ystod y 15 diwrnod bydd  hysbysiad cosb benodedig yn cael ei gyflwyno.

Absenoldeb heb ei awdurdodi

Dyma absenoldeb o'r ysgol dydy'r Pennaeth ddim yn ei gyfiawnhau neu'n ystyried yn dderbyniol.

Cofiwch, DIM OND pennaeth ysgol eich plentyn sy'n cael awdurdodi absenoldeb disgybl

Gwella presenoldeb

Mae modd i chi wella presenoldeb eich plentyn ac osgoi Hysbysiad Cosb Benodedig drwy ddilyn y camau yma:

  • Sicrhau bod eich plentyn yn mynychu'r ysgol bob dydd ac yn cyrraedd yn brydlon.
  • Gwneud yn siwr, os bydd eich plentyn yn sâl, eich bod yn cysylltu â'r ysgol ar unwaith er mwyn esbonio'r amgylchiadau.
  • Peidiwch â threfnu gwyliau yn ystod tymor yr ysgol.

Sut i dalu eich Hysbysiad Cosb Benodedig Mynychu'r Ysgol?

Mae modd i chi dalu eich Hysbysiad Cosb Benodedig Mynychu'r Ysgol ar-lein.

Talu eich Hysbysiad Cosb Benodedig Mynychu'r Ysgol ar-lein
Edrychwch ar eich hysbysiad am ddulliau eraill o dalu.

Apeliadau

Does dim hawl statudol mewn perthynas â chyflwyno apêl. Unwaith i hysbysiad cosb benodedig gael ei gyflwyno, mae modd ei dynnu yn ôl pan fo tystiolaeth iddo gael ei gyflwyno ar gam.

Rhagor o wybodaeth

Cewch chi ragor o wybodaeth yn y llyfryn canllaw ar Hysbysiadau Cosb Benodedig am beidio â mynychu'r ysgol.