Skip to main content

Clybiau a Sefydliadau Allanol

Mae Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen  yn falch o groesawu ystod o glybiau a grwpiau allanol sy'n defnyddio'r ganolfan a'i chyfleusterau i ymarfer eu campau chwaraeon a gweithgareddau arbenigol neu gynnal dosbarthiadau penodol fel dawnsio a chrefft ymladd.

Gan eu bod nhw'n cael eu trefnu'n allanol, nid yw'r ganolfan yn gyfrifol am gadw lle ar gyfer y grwpiau a dosbarthiadau hyn, neu am daliadau. 

Dydy'r dosbarthiadau neu weithgareddau wedi'u cynnal gan grwpiau allanol ddim yn rhan o'r cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes.

Cysylltwch â'r trefnwyr i gael y manylion diweddaraf ac i wirio argaeledd. Bydd y grwpiau yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau ynglŷn â phryd bydd sesiynau yn cael eu canslo.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau – gan gynnwys golff, cerdded, beicio, gymnasteg ac eraill – beth am gysylltu â charfan Chwaraeon RhCT?

Mae'r garfan wrth law i gynnig gwybodaeth a chyngor am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ac mae'r wefan yn cynnwys cyfeirlyfr gwych sy'n caniatáu i chi ddod o hyd i weithgareddau a chlybiau lleol.

Mae Chwaraeon RhCT hefyd wrth law i helpu clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n ystyried cychwyn neu estyn cyfleoedd chwaraeon trwy fanteisio ar ffrydiau ariannu, gwybodaeth a rhagor.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwybodaeth Chwaraeon RhCT!

Hawthorn external classes
Dydd Llun  
Tots Rygbi 16:00 - 17:00  
Balanceability 17:00 - 18:00  
Dydd Mawrth  
Tots Pêl-droed 17:00 - 18:00
Tae kwon Do (Tigers) 17:00 - 18:00
Tae kwon Do 18:00 - 19:00
Dydd Mercher  
Pêl-droed Cerdded 10:00 - 11:30  
Carate 18:30 - 19:30  
dydd iau  
Dawns Gymdeithasol (bob 2 wythnos) 14:00 - 15:30  
dydd GWENER  
YAH 12:30 - 15:30  
Dydd Sadwrn  
Tae Kwon Do 11:00 - 12:00  
Dydd Sul  
Pêl-rwyd Top Tots 11:00 - 14:00  
Tots Rygbi 11:00 - 13:00  
Tramopline1