Skip to main content

Clybiau a Sefydliadau Allanol

Mae Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda yn falch o groesawu ystod o glybiau a grwpiau allanol sy'n defnyddio'r ganolfan a'i chyfleusterau i ymarfer eu campau chwaraeon a gweithgareddau arbenigol neu gynnal dosbarthiadau penodol fel dawnsio a chrefft ymladd.

Gan eu bod nhw'n cael eu trefnu'n allanol, nid yw'r ganolfan yn gyfrifol am gadw lle ar gyfer y grwpiau a dosbarthiadau hyn, neu am daliadau. 

Dydy'r dosbarthiadau neu weithgareddau wedi'u cynnal gan grwpiau allanol ddim yn rhan o'r cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes.

Cysylltwch â'r trefnwyr i gael y manylion diweddaraf ac i wirio argaeledd. Bydd y grwpiau yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau ynglŷn â phryd bydd sesiynau yn cael eu canslo.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau – gan gynnwys golff, cerdded, beicio, gymnasteg ac eraill – beth am gysylltu â charfan Chwaraeon RhCT?

Mae'r garfan wrth law i gynnig gwybodaeth a chyngor am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ac mae'r wefan yn cynnwys cyfeirlyfr gwych sy'n caniatáu i chi ddod o hyd i weithgareddau a chlybiau lleol.

Mae Chwaraeon RhCT hefyd wrth law i helpu clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n ystyried cychwyn neu estyn cyfleoedd chwaraeon trwy fanteisio ar ffrydiau ariannu, gwybodaeth a rhagor.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwybodaeth Chwaraeon RhCT!

Rhondda Sport Centre external classes
DYDD LLUNAMSEROEDD
Carfan Nofio Perfformiad RhCT 16:30 - 19:30
Clwb nofio Cwm Rhondda 19:45 - 20:45
Carate 'Shotokan' 19:00 - 20:00

Carate 'Kyokushinkai'

20:00 - 21:30
DYDD MAWRTH 

Rhondda Paddlers

19:00 - 21:00 

DYDD MERCHER 
Crefft ymladd 'Cadw'n Ddiogel' 17:00 - 18:00
Carate 'Shotokan' 19:00 - 20:00
Reslo 20:00 - 21:00
DYDD IAU 

Gymnasteg yr Urdd

17:00 - 18:00

Nofio Rhondda Polar Bears

19:00 - 21:00 

Carate 'Kyokushinkai'

19:00 - 21:00

Rhondda Sub Aqua

21:00 - 22:00

DYDD GWENER 
Clwb nofio Cwm Rhondda 19:00 - 22:00
Jiwdo

19:00 - 20:30

SATURDAY 
RCT Tigers 10:30 - 13:30
DYDD SUL 
Tots Pêl-rwyd 11:00 - 13:00
Crefft ymladd cymysg 14:30 - 15:30