Skip to main content

Campfa Ddŵr

Canolfan Hamdden Tonyrefail yw'r unig ganolfan â Champfa Ddŵr yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r gampfa fywiogus yn hwyl ac yn effeithiol gan ddefnyddio gwrthiant naturiol y dŵr i greu sesiwn ymarfer corff heb straen.

Mae'r gampfa o fudd i unigolion sy'n gwella ar ôl cael salwch neu anaf, neu'n rheoli anabledd, heb sôn am y budd i nofwyr sy'n awyddus i ychwanegu rhywbeth gwahanol at eu sesiynau ymarfer corff.

Diolch i Aelodaeth Hamdden am Oes, mae modd i chi fwynhau mynediad di-ben-draw i'n pwll a champfa ddŵr (yn amodol ar amseroedd agor). Mae modd i chi ddefnyddio'ch aelodaeth mewn unrhyw ganolfan, felly beth am fynd i Donyrefail – mae'n lleoliad canolog ac mae digon o le i barcio – i roi cynnig ar y Gampfa Ddŵr?

Mae nofio, sesiwn sefydlu yn y gampfa ddŵr a mynediad am ddim gyda'ch aelodaeth.

Pris pob sesiwn yn y Gampfa Ddŵr yw pris sesiwn nofio. Ewch i'n   tudalen pwll nofio i weld ein hamseroedd agor a phrisoedd.

AquaGymTonyrefail

MANTEISION DEFNYDDIO'R GAMPFA DDŴR

  • Mae'n cynnig sesiwn ymarfer corff nad yw'n rhoi straen ar y cymalau sy'n dal pwysau'r corff neu'r cefn.

  • Mae gwrthiant y dŵr yn sicrhau nad ydych yn gweithio y tu hwnt i'ch gallu.

  • Cynyddu/cynnal dwysedd esgyrn.

  • Potensial rhagorol i golli pwysau oherwydd bod angen mwy o egni  na'r ymarferion corff tebyg allan o'r dŵr.

  • Mae'r pwysedd hydrostatig (pwysedd dŵr ar y corff) yn gwella cylchrediad y gwaed ac yn helpu lleihau cadw dŵr yn eich corff.

  • Mae'n rhywbeth gwahanol, pleserus i ymarfer corff 'sych'. 

  • Mae cwsg dwfn yn aml yn digwydd y noson ganlynol, sy'n hyrwyddo iechyd, gyda llai o boen cyhyrog y bore canlynol.

  • Does dim rhaid gwlychu eich gwallt.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i drefnu sesiwn sefydlu.