Skip to main content

Clybiau Nofio

Ar ôl cwblhau ton 7, bydd gan ein nofwyr gyfle i ymuno ag un o'n 4 clwb nofio sy'n hyfforddi ym mhyllau nofio RhCT:

Carfan Nofio Perfformiad RhCT

Mae Carfan Nofio Perfformiad RhCT yn hyfforddi yng nghanolfannau hamdden Llantrisant, Tonyrefail a Chwm Rhondda, pyllau nofio Bronwydd, Lido Pontypridd ac ysgol Beddau. Yn anelu at ragoriaeth o fewn amgylchedd cyfeillgar, rydyn ni'n darparu hyfforddiant nofio o lefel perfformio ar gyfer nofwyr ledled Rhondda Cynon Taf.

Mae'r clwb yn canolbwyntio ar ddatblygiad hir dymor athletwyr trwy weithio ar dechnegau nofio rhagorol sylfaenol yn ein rhaglen sgiliau. Mae'r clwb yn addas i nofwyr tonnau 6 a 7 gan helpu i sicrhau bod pob nofiwr yn cyrraedd ei botensial.

Wedi meistroli’r technegau sylfaenol hyn, mae modd i'r nofwyr symud ymlaen at ein llwybr perfformiad.

Yn hyfforddi hyd at ddeunawr awr yr wythnos gan gynnwys rhaglen hyfforddiant tir, maen nhw'n datblygu i fod yn gystadleuwyr medrus sy'n cystadlu am leoedd ar dimau Cymru a Phrydain, heb golli dim o’u cariad at y gamp.

Mae nofio yn cael ei ystyried yn weithgaredd gydol oes sy’n meithrin sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys gwaith tîm, delio â llwyddiant a methiant a hybu etheg gwaith effeithiol wrth i’r nofwyr ymdrechu i gyflawni eu nodau personol o fewn amgylchedd tîm cefnogol. Yn ogystal â hyn, mae'r nofwyr yn cael eu hannog i ddod yn athrawon campau dŵr, hyfforddwyr, swyddogion, achubwyr bywyd a gwirfoddolwyr yn y clwb  

Mae treialon yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn rhad ac am ddim.

Gwefan: https://www.rctperformanceswimsquad.co.uk/

Facebook:

Twitter: @SwimmingLSSC

Clwb nofio Cwm Rhondda

Cafodd Clwb Nofio Cwm Rhondda ei sefydlu yn 1975 pan agorodd Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda. Mae'r ganolfan yn parhau i fod yn fan cwrdd y clwb. Ni yw clwb nofio cystadleuol gorau Cwm Rhondda gyda thua 150 o aelodau a dros 40 o wirfoddolwyr. Rydyn ni'n defnyddio 5 pwll i hyfforddi sef Ystrad, Y Maerdy, Y Porth, Lido Ponty a Phwll Rhyngwladol Caerdydd.

Rydyn ni'n croesawu nofwyr o bob gallu o blant 4+ oed gwersi 'dysgu nofio'. Bydd y nofwyr yn dilyn camau gwahanol y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Nofio trwy'r dosbarthiadau. Mae nofwyr cystadleuol yn cael eu trefnu'n dimau hyfforddi, ac mae ein hyfforddwyr cymwysedig yn cefnogi nofwyr i gystadlu mewn cystadlaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae croeso i aelodau newydd a darpar athletwyr wneud ymholiadau am ymuno.

Gwefan: http://www.rhonddaswimmingclub.com/

Facebook: Rhondda Swimming Club

Twitter: @RhonddaSwimming

Clwb Nofio Pontypridd

Mae Clwb Nofio Pontypridd yn ymdrechu i fod yn glwb nofio cymunedol yn ferw o brysurdeb sy'n darparu amgylchedd diogel a phleserus i nofwyr o bob oed gyflawni eu potensial. Ei nod yw bod yn glwb nofio sy'n datblygu ac yn gwella'n barhaus ac sy'n cynnig safonau uchel o hyfforddiant i ddarparu gwasanaeth gwerth am arian i aelodau'r clwb.

Cafodd y clwb ei sefydlu yn 1928 yn Lido Ponty. Dyma glwb hynaf RhCT. Yn gysylltiedig â Nofio Cymru, mae nofwyr yn cael cymorth wrth ddysgu gan hyfforddwyr brwdfrydig a gwirfoddolwyr. Wedi’i leoli’n bennaf yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon a phyllau nofio'r Ddraenen-wen, mae llwybr y nofwyr yn dechrau o grŵp Mynediad (Ton 6/7) hyd at safon perfformiad mewn grŵp Sgwad. Mae'r clwb yn cymryd rhan mewn galas yn ogystal â hyrwyddo gweithgareddau lles trwy nofio 'i bawb am oes'. Mae nofwyr hefyd yn cael cymorth i ddod yn athrawon, hyfforddwyr a swyddogion nofio ac achubwyr bywyd.

Gwefan: https://www.pontypriddswimmingclub.org.uk/

Facebook: Pontypridd Swimming Club 

Twitter: @PontypriddC

Clwb Nofio Nexus

Mae Clwb Nofio Nexus yn glwb datblygu wedi'i leoli yn Ne Cymru. Rydyn ni'n hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Sobell a Chanolfan Hamdden Castell-nedd yng Nglyn-nedd ar hyn o bryd.

Os ydy'ch plentyn wedi cyflawni cam/ton 6/7 neu wersi nofio cyfwerth ac mae'n awyddus i symud ymlaen, mae modd i ni gynnig llwybr i nofio cystadleuol, yn ogystal â chysylltiadau cryf â chlybiau lleol eraill os hoffai'ch plentyn roi cynnig ar redeg, triathlon neu weithgareddau aml-chwaraeon.

Mae hyfforddwyr cymwysedig wrth law i ddatblygu a gwella technegau a sgiliau nofio.

Yn aelod o Swim Wales

Mae amseroedd sesiynau yn dibynnu ar lefel sgiliau. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth, neu i gadw lle mewn sesiwn blasu am ddim.

Gwefan: https://tnvsc.co.uk/

Facebook: https://www.facebook.com/Nexusvalleysswimmingclub/

Twitter: @Nexusvalleyswim

Bydd nofwyr unrhyw un o'r pedwar clwb yma yn cael eu hannog i wella eu sgiliau a gweithio tuag at ddod yn nofiwr cystadleuol os hoffen nhw wneud hynny.

Gweld rhagor o wybodaeth am nofio perfformiad yng Nghymru.